Dros y misoedd diwethaf mae disgyblion Ysgol Dyffryn Ardudwy ger Harlech wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect arbennig i ddod â hanesion rhai o furddunnod yr ardal yn fyw trwy gyfrwng archwilio archaeolegol, barddoniaeth ac animeiddiad.

Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru drwy Gynllun Treftadaeth Ddiwylliannol Harlech ac Ardudwy, ac arweiniad y cydlynydd creadigol, Siwan Llynor mae disgyblion Ysgol Dyffryn Ardudwy wedi bod yn dysgu am hanes rhai o hen aelwydydd eu milltir sgwâr.

Gyda chaniatâd caredig tirfeddianwyr, cafodd y disgyblion gyfle i ymweld â dau furddun sef Llam Maria a Than Daran fel enghreifftiau o’r nifer o furddunnod tebyg eraill ar draws yr ardal. Mae hanes y murddunnod hyn yn cyfleu stori cymuned a gafodd ei gwthio i gyrion cymdeithas yn sgil Deddfau Cau Tiroedd Comin y G18 ac G19. Drwy ymweld â Llam Maria a Than Daran, cafodd y disgyblion gyfle i gynnal arolwg archaeolegol a deall yr adeiladau yn well, yn ogystal â chlywed straeon am fywydau heriol eu cyn-breswylwyr drwy ddogfennau hanesyddol.  Wedi treulio diwrnod allan yn y maes yn archwilio a braslunio’r murddunnod, yn ôl yn yr ysgol, cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai barddoniaeth gyda Buddug Roberts, a ffilmio ac animeiddio gyda Gwion Aled er mwyn creu darn o gelfyddyd i ddod â’r hanesion hyn yn fyw.

Meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i Ysgol Dyffryn Ardudwy am eu cydweithrediad parod gyda’r prosiect arbennig yma, sydd wedi meithrin diddordeb y disgyblion yn hanes eu milltir sgwâr.

Mae gwella dealltwriaeth o dirwedd hanesyddol gyfoethog Ardudwy, sydd o safon ryngwladol, a’r cymunedau arferai fyw ynddi, yn un o nodau Cynllun Treftadaeth Ddiwylliannol Harlech ac  Ardudwy. Drwy dynnu’r gymuned at ei gilydd i gasglu, cofnodi a dehongli stori’r tir, ein gobaith yw rhoi cyfle i ragor o bobl gymryd rhan yn eu treftadaeth leol a deall eu treftadaeth yn well”.

Meddai Cathryn Davey, Pennaeth Ysgol Dyffryn Ardudwy”.

“Roedd hwn yn brosiect trawsgwricwlaidd gwych sydd wedi dod a’r amgylchedd leol a hanes yr ardal yn fyw i’r disgyblion.  Defnyddiwyd arbenigwyr digidol, daearyddol, ieithyddol a hanesyddol i gyfoethogi’r profiad bythgofiadwy yma, a oedd yn atgyfnerthu ac yn cefnogi gwaith staff yr ysgol i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i’r plant.”

Meddai Siwan Llynor, arweinydd creadigol y prosiect:

“Mae wedi bod yn brosiect hynod o ddiddorol sy’n rhoi sylw i hanes coll y teuluoedd oedd yn byw yn nhirwedd mynyddoedd Ardudwy. Braint oedd cael tywys y daith a rhannu’r hanes gyda disgyblion Ysgol Dyffryn Ardudwy. ”

Un elfen o Gynllun Treftadaeth Ddiwylliannol Harlech ac Ardudwy yw’r prosiect yma gyda’r ysgol leol. Nod y cynllun ehangach yw cofnodi a dathlu treftadaeth adeiladau a nodweddion tirweddol ffermydd coll ardal Ardudwy.

Diwedd

Nodyn i olygyddion

  1. Ariennir y cynllun drwy gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gweithredir drwy bartneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
  2. Mae ardal y cynllun yn cynnwys tirwedd hanesyddol  Ardudwy fel caiff yr ardal ei diffinio yng Nghofrestr Tirweddau Hanesyddol Cadw.
  3. Gellir gwylio ffilm fer a gynhyrchwyd i gofnodi’r prosiect ar sianel YouTube Awdurdod y Parc yma.
  4. Mae tlodi teulu Llam Maria wedi ei gofnodi yn nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn, ‘Salem’.
  5. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch efo Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu – Cynllunio a Rheolaeth Tir ar aeron@eryri.llyw.cymru  neu 01766 770 238 / 07887452467