Diogelu Ardaloedd Cadwraeth i Genedlaethau’r Dyfodol
Mae nifer o ardaloedd yn Eryri sy’n adnabyddus am eu nodweddion unigryw; ond gyda threigl amser mae peryg i’r nodweddion hynny gael eu colli neu fynd yn angof. Er mwyn ceisio diogelu’r nodweddion hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymgymryd â phrosiect cadwraeth arbennig.
Ers y 1970au mae pedair ar ddeg o Ardaloedd Cadwraeth wedi eu hadnabod o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol, pob un â’u cymeriad unigryw eu hunain – o bentref glan môr Aberdyfi â’i phensaernïaeth nodedig yn y de, i Nant Peris yn y gogledd, sef pentref bychan diymhongar ond llawn hanes.
Diffinnir Ardal Gadwraeth fel ardal sydd o ddiddordeb pensaernïol neu o bwysigrwydd hanesyddol lle ystyrir bod angen diogelu neu fireinio’i edrychiad neu gymeriad. Ond nid adeiladau yn unig sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig – mae deunyddiau, nodweddion pensaernïol, tirluniad a hanes hefyd yn elfennau sy’n cyfrannu’n sylweddol at gymeriad ardaloedd.
Diolch i nawdd drwy gynllun ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru, ac arweiniad Chambers Conservation mae gwerthusiadau a chynlluniau rheoli wedi eu paratoi ar gyfer pob un ardal gadwraeth. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio fframwaith i warchod yr ardaloedd, ac yn sylfaen ar gyfer cynlluniau gwella a hyfforddiant yn y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gymorth grant i gymunedau lleol ymgymryd â rhai o’r gwelliannau a amlinellir yn y cynlluniau rheoli.
Bydd mewnbwn gan y cymunedau lleol yn allweddol i lwyddiant y prosiect gan mai nhw sy’n meddu ar yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth leol o’r ardaloedd a’u hanes na ellir eu casglu o unrhyw ffynhonnell arall.
Meddai Elen Hughes, Swyddog Polisi Cynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Bydd y cynlluniau hyn yn gosod datganiad o arwyddocâd a chynllun gweithredu i warchod a gwella’r ardaloedd yn gynaliadwy, gyda phwyslais arbennig ar eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon. Trwy gydweithio â chymunedau lleol a grwpiau diddordeb gallwn greu cynlluniau rheoli ystyrlon i warchod cymeriad a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r ardaloedd hyn.”
Mae’r Cynlluniau Rheoli bellach wedi eu drafftio a chyfnod o ymgynghori cyhoeddus wedi agor lle bydd cyfle i’r cyhoedd roi sylwadau ar y cynlluniau. Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 5yh ar yr 11eg o Dachwedd 2022. Am ragor o wybodaeth am yr Ardaloedd Cadwraeth a sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.