Dros yr wythnosau nesaf bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw-mewn ar draws y Parc  er mwyn rhoi’r cyfle i berchnogion a rheolwyr adeiladau traddodiadol sgwrsio gydag arbenigwyr a swyddogion yr Awdurdod ar sut y gellir ymgorffori gwelliannau i adeiladau traddodiadol.

Mae’r frwydr yn erbyn tamprwydd mewn adeiladau traddodiadol yn un sy’n gyfarwydd iawn i lawer o berchnogion hen adeiladau, ac yn aml iawn y temtasiwn yw gorchuddio wynebau carreg gyda rendrad o sment neu blastr. Yn ogystal ag amharu ar gymeriad yr adeilad, gall hyn amharu ar allu’r adeilad i anadlu’n naturiol, gan arwain i broblemau pellach.

Dan arweiniad arbenigwyr o Chambers Conservation a’r Natural Building Centre, Llanrwst, bydd y sesiynau galw-mewn yn cynnig cyfle am sgwrs ac i weld arddangosiadau o waith addasu neu ôl-osod ar adeiladau traddodiadol, yn ogystal â derbyn gwybodaeth ynghylch sut gellir gwella effeithlonrwydd ynni hen adeiladau.

Yn ystod y sesiynau bydd swyddogion Awdurdod y Parc ar gael hefyd i drafod dynodiad Ardaloedd Cadwraeth a’r modd y gall perchnogion a rheolwyr eiddo gymryd camau i ddiogelu nodweddion arbennig yr adeiladau hyn. Bydd cyfle hefyd i  gofrestru i fynychu cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim gan yr Awdurdod fyddai’n edrych yn fanylach ar sut i ddod â hen adeiladau traddodiadol i safonau’r G21 o ran effeithlonrwydd ynni.

Meddai Elen Hughes, Swyddog Polisi Cynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae adeiladau traddodiadol Eryri’n rhan annatod o’r hyn sy’n gwneud Eryri’n unigryw. Trwy gydweithio gyda pherchnogion a rheolwyr adeiladau i ddatblygu’r adeiladau  hyn mewn modd cynaliadwy, gallwn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r adeiladau hanesyddol hyn mewn modd sy’n cyd-fynd â’r oes fodern hon.”

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adeiladau traddodiadol i alw heibio unrhyw un o’r pedwar digwyddiad canlynol:

  • Neuadd Aberdyfi: Dydd Sadwrn, 11eg Chwefror rhwng 1 a 4.30yp.
  • Canolfan Groeso Betws y Coed: Dydd Mercher, 15fed Chwefror rhwng 2yp-6yh.
  • Canolfan Cwm Idwal: Dydd Iau, 2il Mawrth rhwng 2yp-6yh.
  • Plas Tan y Bwlch, Maentwrog: Dydd Sadwrn, 11eg Mawrth rhwng 1 a 4.30yp.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ariennir y cynllun, sy’n rhan o brosiect Ardaloedd Cadwraeth, gan gronfa Tirwedddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
  2. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274 / 07887452467