Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Ewch â'r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a'r wybodaeth gywir

Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel.

Dylech baratoi drwy gario’r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.

Offer

Dylech gario’r offer cywir i sicrhau y gallwch wynebu unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu newid yn y tywydd.

Map a chwmpawd
Cariwch fap a chwmpawd gyda chi, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gyfarwydd â'r llwybr.
Haenau thermal
Gall y tymheredd fynd yn oerach ar gopaon mynyddoedd. Cariwch haenau ychwanegol gyda chi bob amser.
Haenau gwrth-ddŵr
Gall y tywydd newid o fewn munudau. Peidiwch â chael eich dal allan gan y glaw.
Esgidiau cerdded pwrpasol
Gall tir anwastad arwain at anaf. Gwisgwch esgidiau cerdded addas gyda gwadn trwchus ac ochrau uchel.
Ffôn wedi’i wefru’n llawn
Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru'n llawn cyn cychwyn ar eich taith ac osgoi ei ddefnyddio oni bai ei fod yn argyfwng.
Fflachlamp a chwiban
Cariwch fflachlamp a chwiban rhag ofn i chi gael eich dal ar gopa ar ôl iddi dywyllu.
Pecyn cymorth cyntaf
Gall pecyn cymorth cyntaf fod yn ddefnyddiol i lanhau a gorchuddio unrhyw grafiadau neu glwyfau bach a helpu gyda phothelli.
Bwyd a diod
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cario digon o fwyd a diod, yn enwedig mewn tywydd cynhesach.
Tywydd ac amodau

Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o’r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol.

Gwirio’r rhagolygon
Yr adeg gorau i wirio’r rhagolygon ydi ychydig oriau cyn cychwyn eich taith. Bydd y rhagolygon yn fwy cywir ar yr adeg yma. Defnyddiwch wasanaeth y Met Office ar gyfer y rhagolygon diweddaraf.
Cynllunio ar gyfer yr amodau
Peidiwch a bod yn or-ddibynnol ar y rhagolygon. Cofiwch y gall y tywydd newid yn ddi-rybudd a bydd angen i chi gario’r offer ar gyfer pob math o amodau.
Cadwch eich cynlluniau’n hyblyg
Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda’r amodau, ystyriwch newid eich cynlluniau neu droi’n ôl.
Sgiliau a gwybodaeth

Mae cael y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw’n ddiogel mewn rhai mannau yn Eryri.

Ffitrwydd
Dylech sicrhau fod eich lefel ffitrwydd yn addas ar gyfer y daith o’ch blaen. Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel ffitrwydd, cwblhewch daith llai llafurus gyntaf.
Adnabod y daith
Dylech ddod i adnabod y daith cyn i chi gychwyn a chynllunio ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd.
Sgiliau
Gwnewch yn siŵr fod gennych y sgiliau hanfodol ar gyfer y daith er enghraifft sgiliau darllen map a defnyddio cwmpawd.
Bod yn ymwybodol o’ch gallu chi a gallu’r grŵp
Dylech gynllunio eich taith yn seiliedig ar eich gallu chi neu, os yn teithio mewn grŵp, ar allu’r unigolyn lleiaf medrus yn y grŵp.
Rhannu eich cynlluniau
Cofiwch ddweud wrth rhywun am eich cynlluniau cyn cychwyn ar y daith.

Beth i’w wneud mewn argyfwng

Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd

Dŵr mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub

Môr ac arfordir: Galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:

  • Eich lleoliad
  • Eich enw, rhyw ac oed
  • Natur eich argyfwng neu anafiadau
  • Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
  • Eich rhif ffôn symudol

Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Adventure Smart.

Gwefan Adventure Smart