Dylech gario’r offer cywir i sicrhau y gallwch wynebu unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu newid yn y tywydd.
Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel.
Dylech baratoi drwy gario’r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.
Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o’r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol.
Mae cael y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw’n ddiogel mewn rhai mannau yn Eryri.
Beth i’w wneud mewn argyfwng
Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd
Dŵr mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub
Môr ac arfordir: Galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:
- Eich lleoliad
- Eich enw, rhyw ac oed
- Natur eich argyfwng neu anafiadau
- Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
- Eich rhif ffôn symudol
Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Adventure Smart.