Mwynhau Eryri yng nghwmni eich ci

Mae cefn gwlad yn lle gwych i fynd â’ch ci am dro, ond dylid gwneud hynny’n gyfrifol er mwyn sicrhau nad yw eich ci yn peri trafferth neu berygl i dda byw, bywyd gwyllt, pobl eraill neu gŵn eraill. 

Cadw eich hun, eich ci a bywyd gwyllt Eryri yn ddiogel

Y tair rheol arweiniol ar gyfer mynd â’ch ci am dro ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae bob amser yn well cadw eich ci ar dennyn
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i fywyd gwyllt prin a phob math o dda byw. Cadw'ch ci ar dennyn yw'r ffordd orau o sicrhau bod eich ci ac anifeiliaid eraill yn ddiogel.
Byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchoedd
Ydych chi'n agos at dda byw, bywyd gwyllt neu grwpiau mawr o bobl? A allai eich ci ddychryn neu achosi perygl i unrhyw un neu unrhyw beth?
Clirio baw eich ci
Cliriwch faw eich cŵn bob amser a chael gwared ag ef mewn modd priodol. Peidiwch byth â gadael bagiau cŵn ar ymylon llwybrau troed.
Cwestiynau cyffredin

Na, ni allwch fynd â’ch ci i unrhyw le y mynnwch yn y Parc Cenedlaethol. Mae llawer o dir Eryri yn eiddo preifat heb fynediad i’r cyhoedd. 

Fodd bynnag, mae llawer o leoedd gwych i fynd â’ch ci am dro. Gallwch fynd â’ch ci am dro ar unrhyw lwybr cyhoeddus neu dir mynediad agored.

Gallwch hefyd edrych ar ein hadran Llwybrau a Theithiau i ddod o hyd i lwybrau addas ar gyfer mynd â’ch ci am dro.

Mae p’un a allwch ollwng eich ci oddi ar dennyn yn dibynnu ar y math o dir rydych arno. Yn y Parc Cenedlaethol, mae gan diroedd wahanol fathau o ddarpariaethau mynediad. Mae darpariaethau mynediad yn nodi’r hyn y gall y cyhoedd ei wneud a’r hyn na allant ei wneud ar y tir.

Un math o ddarpariaeth mynediad yw ‘Tir Mynediad’ neu ‘Dir Mynediad Agored’. Os ydych yn mynd â’ch ci am dro ar Dir Mynediad Agored, mae’n rhaid ichi sicrhau bod eich ci ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, pan fydd da byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear yn bridio.

Math arall o ddarpariaeth mynediad yw ‘Hawliau Tramwy Cyhoeddus’, sy’n cynnwys llwybrau cyhoeddus. Ar y llwybrau hyn, mae angen i’ch ci fod o dan ‘reolaeth agos’ yn unig, ac nid o reidrwydd ar dennyn. Fodd bynnag, gofalwch bob amser fod eich ci ar dennyn byr os ydych yn cerdded heibio i dda byw neu fywyd gwyllt.

Ein cyngor cyffredinol i berchnogion cŵn yw sicrhau bod eu ci ar dennyn bob amser pan fyddant yn agos i dda byw.

Mae rhai mathau o weithgareddau y dylech gadw llygad amdanynt wrth fynd â’ch ci am dro yn Eryri.

Mae llawer o dir y Parc Cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol, ac ar rai adegau o’r flwyddyn, efallai y byddwch yn gweld perchennog tir yn casglu eu hanifeiliaid o ardaloedd ucheldirol. Os gwelwch hyn yn digwydd, rhowch eich ci ar dennyn byr yn syth er mwyn sicrhau diogelwch eich ci a diogelwch y da byw. Bydd perchennog y tir yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn fawr.

Byddwch yn ymwybodol y gall fod cyfyngiadau ar rai traethau sy’n golygu na chaniateir cŵn mewn rhai mannau. 

Gorchmynion Rheoli Cŵn (Cyngor Gwynedd)
Materion Cŵn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

Mae’n bosibl na fydd perchnogion cŵn yn ymwybodol o ba mor beryglus y gall gwartheg fod, yn enwedig pan fydd ganddynt loi ifanc. Gall eich ci gynhyrfu greddf amddiffynnol mewn gwartheg. Dylech osgoi gwartheg â lloi ifanc bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o le iddynt wrth basio, a chadwch eich ci ar dennyn byr.

Os bydd buwch neu wartheg yn dechrau rhedeg ar eich hôl, dylech ollwng tennyn y ci ar unwaith a chanolbwyntio ar eich diogelwch eich hun. Mae’n debygol iawn y bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd ac yna’n dychwelyd atoch yn nes ymlaen pan fyddwch yn ddiogel rhag niwed.

Mewn rhai ardaloedd yn Eryri, efallai y byddwch yn gweld ceffylau gwyllt neu geffylau eraill. Nid yw ceffylau’n fygythiad i bobl fel arfer, ond efallai na fyddant yn rhy hoff o’ch ci, felly mae’n well eu hosgoi lle bo modd.

Mae baw cŵn yn beryglus iawn i wartheg. Gall baw cŵn gynnwys parasitiaid sy’n achosi i wartheg cyflo (pregnant) golli eu lloi.

Mae’n hollbwysig eich bod yn clirio baw eich ci a chael gwared ag ef mewn modd priodol er mwyn sicrhau bod bywyd gwyllt, da byw a thirweddau Eryri yn cael eu gwarchod.

Mae’n drosedd caniatáu i’ch ci ymosod ar neu redeg ar ôl da byw o dan Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953, ac mae’n gyfreithlon i ffermwr saethu unrhyw gi sy’n ymddwyn fel hyn heb rybudd nac unrhyw fath o iawndal i’r perchennog.