Ewch â'r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a'r wybodaeth gywir

Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel.

Dylech baratoi drwy gario’r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.

Tywydd ac amodau

Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o’r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol.

Gwirio’r rhagolygon
Yr adeg gorau i wirio’r rhagolygon ydi ychydig oriau cyn cychwyn eich taith. Bydd y rhagolygon yn fwy cywir ar yr adeg yma. Defnyddiwch wasanaeth y Met Office ar gyfer y rhagolygon diweddaraf.
Cynllunio ar gyfer yr amodau
Peidiwch a bod yn or-ddibynnol ar y rhagolygon. Cofiwch y gall y tywydd newid yn ddi-rybudd a bydd angen i chi gario’r offer ar gyfer pob math o amodau.
Cadwch eich cynlluniau’n hyblyg
Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda’r amodau, ystyriwch newid eich cynlluniau neu droi’n ôl.

Adroddiadau Amodau Dan Draed Yr Wyddfa

I gael gwybodaeth am y tywydd a’r amodau dan draed diweddaraf ar Yr Wyddfa, ewch i’r wefan swyddogol Yr Wyddfa Fyw isod.

Gweld yr adroddiadau ar Yr Wyddfa Fyw

Sgiliau a gwybodaeth

Mae cael y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw’n ddiogel mewn rhai mannau yn Eryri.

Ffitrwydd
Dylech sicrhau fod eich lefel ffitrwydd yn addas ar gyfer y daith o’ch blaen. Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel ffitrwydd, cwblhewch daith llai llafurus gyntaf.
Adnabod y daith
Dylech ddod i adnabod y daith cyn i chi gychwyn a chynllunio ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd.
Sgiliau
Gwnewch yn siŵr fod gennych y sgiliau hanfodol ar gyfer y daith er enghraifft sgiliau darllen map a defnyddio cwmpawd.

Beth i’w wneud mewn argyfwng

Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd

Dŵr mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub

Môr ac arfordir: Galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:

  • Eich lleoliad
  • Eich enw, rhyw ac oed
  • Natur eich argyfwng neu anafiadau
  • Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
  • Eich rhif ffôn symudol

Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Adventure Smart.

Gwefan Mentra’n Gall