Ydych chi’n barod am her arbennig eleni? Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth i chi arddangos eich ymweliad cynaladwy i Barc Cenedlaethol Eryri trwy ffurf vlog!
Mae’n amser rhyddhau eich creadigrwydd wrth ddangos eich yr hyn ydych chi’n ei wneud yn gynaladwy yng nghanol ysblander Parc Cenedlaethol Eryri.
Mi fydd y gystadleuaeth ar agor gydol yr haf felly mae digon o amser i chi gynllunio a ffilmio eich anturiaethau. Sicrhewch eich bod yn pwysleisio yr hyn yr ydych chi’n gwneud yn gynaladwy er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Mi fyddwn ni’n cyhoeddi tri enillydd ar ddiwedd yr ymgyrch a mi fydd pob un yn derbyn gwobr anhygoel. Felly ewch amdani! Estynwch eich camera a dechreuwch gofnodi yr hyn yr ydych chi yn gwneud yn gynaladwy ym Mharc Cenedlaethol Eryri heddiw!
Awgrymiadau Defnyddiol
Dyma rai awgrymiadau fydd yn eich cynorthwyo i enill un o’r gwobrau arbennig.
- Ceisiwch beidio a defnyddio cerbyd personol ond yn hytrach wneud y mwyaf o gerdded, beicio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
- Dangoswch sut yr ydych chi yn lleihau eich effaith amgylcheddol trwy ddefnyddio offer amlddefnydd a mynd a’ch sbwriel adref gyda chi
- Ymunwch ar un o sesiynau gwirfoddoli gwych y bartneriaeth Caru Eryri
- Os ydych yn aros mewn pabell neu gartref modur, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny mewn gwersyllfa ddynodedig. Peidiwch a campio’n wyllt heb ganiatâd tirfeddianwyr
- Dangoswch sut yr ydych yn cefnogi’r economi a chymunedau drwy brynu nwyddau lleol
- Rhannwch syniadau am sut all eich gwylwyr leihau eu heffaith amgylcheddol pan yn ymweld ag Eryri
- Pan yn ffilmio, byddwch yn ymwybodol o’r amgylchedd a parchwch y ffawna a fflora
- Byddwch yn greadigol yn arddangos y gorau sydd gan Barc Cenedlaethol Eryri i’w gynnig
Sut i Ymgeisio
Er mwyn ymgeisio, postiwch eich Vlog i unrhyw un o’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #eryrini23 ac e-bostiwch ddolen at cyfathrebu@eryri.llyw.cymru
Gwobrau
Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei feirniadu gan dîm cyfathrebu Awdurdod y Parc Cenedlaethol a mi fydd pob enillydd yn derbyn taleb offer a dillad awyr agored Patagonia.
1af – £300
2il – £200
3ydd – £100
Telerau ac Amodau
- Mae’r gystadleuaeth hon yn cael ei chynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
- Nid oes rhaid gwneud unrhyw daliad i gystadlu.
- Nid yw gweithwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gymwys i enill.
- Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Dydd Sul, 10fed o Fedi 2023.
- Nid yw’r gystadleuaeth yma mewn unrhyw ffordd wedi ei noddi, ei weinyddu nac yn gysylltiedig a Patagonia na unrhyw un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.