Y ffordd orau i fwynhau gwersylla ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw i aros mewn gwersyllfan swyddogol.

Gwersylla ydy un o’r ffyrdd gorau i fwynhau natur. Mae Eryri yn llawn gwersyllfannau anhygoel o ardaloedd arfordirol y de i ardaloedd mynyddig y gogledd.

Gwersylla

Er mwyn cael y gorau o wersylla yn y Parc sicrhewch eich bod chi’n:

  • Aros mewn gwersyllfan swyddogol
  • Archebu lle ymhell o flaen llaw
  • Ystyried pryd a sut fyddwch chi’n teithio i’r gwersyllfan. Mae rhai ardaloedd o’r Parc yn gallu mynd yn brysur iawn yn ystod y tymhorau prysur.

Gwersyllfannau yn Eryri

Gwersylla Gwyllt- Caniatâd

Ni chaniateir campio gwyllt yn unlle yn Eryri oni bai fod caniatâd wedi cael ei roi yn benodol gan y tirfeddiannwr neu ffermwr. Ni chaniateir gwersylla mewn meysydd parcio neu ar ymyl y ffordd o gwbl.

Dim ond ychydig o dir y mae’r Parc Cenedlaethol yn berchen arno ac i wersylla gwyllt mae angen cael caniatâd gan y tirfeddianwyr perthnasol felly ni allwn roi caniatâd ar gyfer y gweithgaredd hwn ar dir pobl eraill gan gynnwys tir amaethyddol, coedwigoedd y wladwriaeth / preifat, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, glannau afonydd neu ardaloedd arfordirol neu dir a ddynodwyd o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Gweithredu fel ‘cefn gwlad agored’.

Gwersylla Gwyllt – Argymhellion

O ystyried y sefyllfa hon, rydym yn argymell eich bod yn ceisio defnyddio maes gwersylla llai, mwy anffurfiol, sydd yn agosach at y lleoliad yr ydych yn bwriadu ymweld ag ef. Mae nifer o’r rhain ardraws y Parc Cenedlaethol ac mae gan bob un ohonynt bresenoldeb ar y wê ond am eu bod yn boblogaidd, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu gan ganiatáu digon o amser ymlaen llaw.

Fel arall, gallwch archebu llety yn un o’r Hosteli Ieuenctid (YHA) niferus yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r rhain yn boblogaidd felly archebwch ymhell ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Efallai y byddai’n fanteisiol i chi ystyried archebu ganol yr wythnos yn y tymor brig/prysuraf.

Cod Gwersylla Gwyllt

Os ydych yn gwersylla mewn maes wersylla swyddogol neu pan fo tirfeddianwyr wedi rhoi caniatâd yna fe awgrymwn y dylai unrhyw wersylla gael ei wneud yn gyfrifol ac yn ddisylw yn y bryniau a’r mynyddoedd ac y dylech ddilyn y Cod Gwersylla Gwyllt fel isod:

  • Dylech wersylla yn uchel a draw oddi wrth unrhyw draciau ar fryniau a gweundiroedd agored ac yn ddigon pell i ffwrdd o unrhyw dai a ffermydd.
  • Dechreuwch wersyllu yn hwyr a gadewch yn gynnar er mwyn lleihau eich presenoldeb gweledol gymaint â phosibl.
  • Arhoswch am un noson yn unig er mwyn lleihau eich effaith.
  • Peidiwch â gadael olion sy’n dangos eich bod wedi gwersylla yno.
  • Peidiwch â chynnau tân, a pheidiwch a defnyddio barbeciw tafladwy.
  • Dylid cymryd gofal wrth ddefnyddio stôf nwy neu danwydd hylif. Gwnewch yn saff bod yr ardal goginio  yn glir o unrhywbeth fflamadwy gan gynnwys llystyfiant.
  • Mynd i’r toiled – dylai fod o leiaf 30m i ffwrdd o unrhyw ffynhonnell dŵr neu lwybr, a dylid claddu gwastraff o leiaf 15cm o ddyfnder a’i orchuddio. Ewch â’ch papur ac eitemau iechydol adref gyda chi.
  • Peidiwch â gadael sbwriel ar eich ôl; ewch â’ch holl sbwriel a gweddillion bwyd adref gyda chi.
  • Peidiwch â llygru’r ardal â glanedyddion nad ydynt yn ecogyfeillgar a pheidiwch â defnyddio nentydd, llynnoedd nac afonydd ar gyfer ymolchi â sebon neu unrhyw gynnyrch ymolchi arall. Ewch â bowlen fach gyda chi a’i waredu yn ddigon pell o unrhyw ddyfrffosydd.
  • Symudwch yn eich blaen yn ddiffwdan a heb ddadlau os bydd tirfeddiannwr yn gofyn i chi wneud hynny.
  • Defnyddiwch babell lliw anymwthiol sy’n cydweddu â’r olygfa.
  • Gwersyllwch gydag un neu ddwy babell yn unig; nid grwpiau ohonynt.
  • Dewiswch eich llain yn ofalus ac osgowch gloddio ffosydd, sathru planhigion a symud creigiau a cherrig er mwyn gwneud lle ar gyfer eich pabell.
  • Byddwch yn dawel.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth pa un a allwch wersylla yn rhywle, yna dewiswch leoliad arall.
Adrodd problem

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio’n agos gyda eu cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd i fynd i’r afael â phroblemau campio anghyfreithlon sydd yn niweidiol. Gallwch adrodd problem ar wefan Cyngor Gwynedd.

Adrodd Problem (Gwefan Cyngor Gwynedd)

Y gyfraith a rhagor o wybodaeth

Mewn ardaloedd ucheldirol pellennig sydd heb eu ffensio, mae darpariaethau tir mynediad y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT) yn datgan yn benodol (o dan y rhestr o gyfyngiadau yn Atodlen 2{1} s) nad yw gwersylla gwyllt yn weithgaredd a ganiateir oni bai fod caniatâd yn cael ei roi.

Os ydych yn cynllunio unrhyw weithgareddau mynydd ac eisiau mwy o wybodaeth neu gyngor cysylltwch gyda’r Tîm Mynediad.

Peter Rutherford
Rheolwr Mynediad, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
peter.rutherford@eryri.llyw.cymru  
01766  772 258
07900 267 538

Cwestiynau cyffredin

Mae safleoedd yng gwersyllfannau Eryri yn llenwi’n sydyn yn ystod y tymor prysur yr haf rhwng Ebrill a Medi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu safle mewn gwersyllfan ymhell o flaen llaw.

Os ydych chi’n edrych am brofiad gwersylla fwy tawel a heddychlon, archebwch le mewn gwersyllfan yn ystod yr wythnos. Mae’r penwythnosau yn aml yn brysur yn Eryri, yn enwedig yn ystod tymor yr haf.

Mae’r rhan fwyaf o wersyllfannau swyddogol Eryri yn addas ar gyfer faniau cysgu a charafannau. 

Ni chaniateir aros dros nos mewn maes parcio mewn fan gysgu na charafan ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Archebu lle mewn gwersyllfan swyddogol yw’r ffordd orau i roi tawelwch meddwl i chi ac i gael cyfle i ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad.

Faniau Cysgu a Chartrefi Modur

Mae rhan fwyaf o dirwedd Parc Cenedlaethol Eryri yn dir preifat sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, coedwigaeth a phob math o bwrpasau eraill. Ni chaniateir gwersylla yn yr ardaloedd hyn oni bai eich bod chi’n cael caniatâd gan berchennog y tir.