Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Gall teithio mewn cartref modur neu fan gysgu fod yn ffordd wych o ddarganfod Eryri

Gall teithio mewn cartref modur neu gamperfan fod yn ffordd wych o ddarganfod llawer o leoliadau gwahanol yn Eryri a’r cyffiniau o fewn un daith yn unig.

Er mwyn gallu gwneud y gorau o’ch ymweliad ag Eryri, mae rhai pethau pwysig i chi eu gwybod cyn i chi ymweld.

Mae’r rhan fwyaf o feysydd gwersylla swyddogol Eryri yn addas ar gyfer faniau gwersylla a charafannau. Ni chaniateir aros dros nos mewn maes parcio mewn fan gysgu neu garafán ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Archebu lle mewn maes gwersylla swyddogol yw’r ffordd orau o sicrhau tawelwch meddwl a chyfle i ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad.

Cadwch mewn cof

Archebwch le ymlaen llaw mewn maes gwersylla swyddogol. Peidiwch â gwersylla mewn meysydd parcio ac osgoi gwersylla ar ymyl y ffordd neu mewn cilfannau.

Peidiwch a champio mewn meysydd parcio
Byddwch yn ystyriol a gadewch i bawb fwynhau heddwch a llonyddwch Eryri trwy beidio â gwersylla mewn meysydd parcio. Ceisiwch osgoi gwersylla ar ymyl ffyrdd neu mewn cilfannau.
Arhoswch mewn wersyllfannau swyddogol
Gwersylla mewn maes gwersylla swyddogol yw’r ffordd orau o sicrhau tawelwch meddwl wrth ymweld ag Eryri. Byddwch hefyd yn cefnogi busnesau lleol fel rhan o'ch ymweliad.
Rhagarchebwch le ymhell o flaen llaw
Dylech gadw mewn cof fod gwersyllfannau yn llenwi'n gyflym. Felly mae'n rhaid i chi gynllunio a rhagarchebu lle ymhell ymlaen llaw cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Ymholiadau Carafannau a Chartrefi Modur

Os hoffech gysylltu ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol gydag unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch carafanau a chartrefi modur, cysylltwch â Swyddog Partneriaethau’r Wyddfa.

Awel Jones
Swyddog Partneriaethau’r Wyddfa, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
E-bost: dana.williams@eryri.llyw.cymru  

Rhagor o wybodaeth

Gellir cael rhagor o wybodaeth am aros mewn carafanau, faniau gwersylla a chartrefi modur ar y dolenni canlynol:

The Camping & Caravanning Club (Uniaith Saesneg)
Caravan & Motorhome Club (Uniaith Saesneg)