Mynediad i Bawb

Addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r dirwedd i raddau helaeth yn arwyneb gwastad heb unrhyw risiau na rannau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y raddfa yma.

Hawdd

Addas ar gyfer pobl o bob oed a phob lefel o ffitrwydd yn ogystal â’r rhan fwyaf o sgwteri aml-dirwedd. Mae’r dirwedd dan draed yn drac neu’n llwybr wedi ei ffurfio’n dda gan amlaf gydag ambell i ddarn tonnog. Fe all fod grisiau mewn rhai mannau. Argymhellir esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus ar gyfer y raddfa yma.

Hamddenol

Addas ar gyfer pobol sydd â lefel ffitrwydd cymedrol. Mae’r dirwedd dan draed yn gallu cynnwys llwybrau gwledig tonnog sydd heb wyneb. Mae posibilrwydd y bydd grisiau mewn rhai mannau. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded a dillad dal dŵr.

Cymedrol

Addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad o gerdded yng nghefn gwlad ac sy’n rhesymol ffit. Bydd y dirwedd yn cynnwys rhai llwybrau serth neu heb arwyneb yng nghefn gwlad agored. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Anodd/Llafurus

Addas ar gyfer pobl sydd â phrofiad o gerdded mynydd a lefel dda o ffitrwydd yn unig. Mae sgiliau llywio yn hanfodol. Bydd y dirwedd yn cynnwys bryniau serth a thirwedd garw dan draed. Gall gynnwys rhai rhannau lle bo angen sgrialu. Mae offer cerdded mynydd cyflawn yn hanfodol, gan gynnwys map. Efallai y bydd angen offer arbenigol dan amodau gaeafol.