Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Beth yw algâu gwyrddlas?

Mae algâu gwyrddlas yn ffenomenon naturiol sydd wedi digwydd yn Llyn Tegid ers blynyddoedd lawer. Mae’n ymddangos yn bennaf yn ystod cyfnodau o dywydd braf, poeth a gellir ei adnabod yn hawdd o’r llysnafedd lliw gwyrdd llachar sy’n arnofio ger lannau’r llyn.

Mae algâu gwyrddlas yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid, a gall cyswllt â’r croen, neu amlynciad achosi salwch ysgafn i ddifrifol. Mae’r symptomau’n cynnwys:

  • Brechau croen
  • Llid llygad
  • Cyfogi
  • Dolur rhydd
  • Twymyn
  • Poen cyhyrol neu yn y cymalau

Mae’r algâu yn hynod beryglus i gŵn a da byw, a gallant fynd yn ddifrifol neu’n angheuol wael yn gyflym iawn.

Mae'r algâu yn ymddangos yn bennaf yn ystod cyfnodau o dywydd braf a phoeth. Mae algâu gwyrddlas yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid. Gan amlaf, gellir gweld yr algâu ar lan y llyn.
Mae'r algâu yn ymddangos yn bennaf yn ystod cyfnodau o dywydd braf a phoeth.
Mae algâu gwyrddlas yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid.
Gan amlaf, gellir gweld yr algâu ar lan y llyn.
Sut i gadw’ch hunain a’ch anifeiliaid anwes yn ddiogel?

Mae ein tîm o Wardeniaid y Llyn yn monitro amodau dŵr y llyn yn agos iawn, yn enwedig yn nhymor yr haf pan mae blodau algaidd gwyrddlas yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Pan fydd blŵm algaidd gwyrddlas wedi’i ganfod neu’n cael ei amau, mae rhybuddion diogelwch amlwg yn cael eu gosod o amgylch y llyn, yn ogystal â’r rhybuddion diogelwch trwy gydol y flwyddyn. Argymhellir yn gryf fod defnyddwyr y llyn yn darllen yr hysbydiad diogelwch cyn dechrau ar unrhyw weithgareddau dŵr.

Ein cyngor yw peidio â mynd i mewn i’r dŵr tra bo’r algâu yn bresennol. Er fod y llysnafedd fel arfer yn fwy amlwg ar y glannau, gall y tocsinau fod yn bresennol drwy’r llyn i gyd.

Os ydych chi’n ansicr, neu os nad yw’r dŵr yn glir fel grisial, byddwch yn ofalus a chadwch allan o’r dŵr.

Mae rhagor o wybodaeth am risgiau iechyd algâu gwyrddlas ar gael ar wefan GIG Cymru.

Algâu Gwryddlas – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Beth ddylech chi ei wneud os ydi hi’n debygol eich bod wedi dod i gysylltiad ag algâu gwyrddlas?

Gwyliwch am unrhyw un o’r symptomau a restrir uchod. Os byddwch chi neu unrhyw un arall o’ch grŵp yn mynd yn sâl, ceisiwch gyngor meddygol, gan nodi algâu gwyrddlas fel yr achos tebygol.

Os oes unrhyw bosibilrwydd bod eich ci wedi bod mewn cysylltiad ag algâu gwyrddlas ac yn dechrau ymddangos yn sâl, dylech gysylltu â’ch milfeddyg ar unwaith.

Dylid hysbysu Wardeniaid Llyn Tegid ar unwaith os y gwelwch unrhyw dystoliad o algâu gwyrddlas yn y llyn drwy ymweld â Swyddfa’r Blaendraeth neu alw 01678 520 626.