Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n leoliad delfrydol ar gyfer cynnal  cynadleddau, digwyddiadau, seminarau, priodasau, dathliadau, cyrsiau, a chyfarfodydd.

Ystafell Oakeley
Wedi ei henwi ar ôl un o gyn berchnogion y Plas, William Oakeley, hon yw prif ystafell y Plas. Yn ogystal â’r ffurfiau isod, gellir gosod unrhyw gynllun i weddu i’ch pwrpas chi, gan gynnwys defnyddio’r ystafell ar gyfer digwyddiadau swyddogol. Mae Ystafell Oakeley drws nesaf i’r llyfrgell ac mae drws yn cysylltu’r ddwy ystafell ar gyfer gweithdai petae angen.
Lolfa Tudor
Er mai lolfa ar gyfer preswylwyr Plas Tan y Bwlch yw’r ystafell hon fel arfer, mae modd ei llogi. Mae’n addas ar gyfer cyfarfodydd bychan neu ymylol, sesiynau trafod, derbyniad bychan a gwasanaethau priodas.
Llyfrgell
Dyma oedd Llyfrgell teulu’r Oakeley, yn edrych allan dros yr Afon Dwyryd a Maentwrog. Gellir gosod unrhyw gynllun ar gyfer eich cyfarfod ac mae’n addas hefyd ar gyfer gweini bwffe.
Theatr
Mae’r theatr wedi’i lleoli yn y Stablau ac mae’n ystafell ddelfrydol ar gyfer cynadleddau a chyflwyniadau ffurfiol. Yn ogystal â’r adnoddau isod, mae yma hefyd system dymheru a goleuadau y gellir amrywio eu lefelau. Gall ddal 80 o bobl.
Ystafell Cyfrifiaduron
Mae 10 cyfrifiadur wedi eu cysylltu i'r rhyngrwyd yn yr ystafell hon. Mae bwrdd mawr yng nghanol yr ystafell er mwyn cyflawni gwaith ymchwil neu waith grŵp. Mae'r ystafell yn berffaith ar gyfer sesiynau torri allan neu gyfarfodydd ymylol.
Ystafell Gwaith Maes
Ystafell fawr yw hon sy’n cynnwys byrddau labordy, sinciau golchi, man arddangos, sgrîn a bwrdd du. Mae’n ddelfrydol ar gyfer gwaith arlunio a gwaith gwyddoniaeth. Ceir yma hefyd gyfarpar ar gyfer gwaith maes ecolegol, daearegol a daearyddol.

Mae trefnu cyfarfodydd a chynadleddau yn gallu bod yn broses anodd ac yn dasg ddi-ddiolch. Ond mae’n staff yma yn barod i’ch cynorthwyo a’ch cynghori gan sicrhau’r trefniant gorau i chi.

Cofiwch fod modd i ni gynnig pecyn arlwyo ar eich cyfer, gallwn ddarparu amryw o adnoddau ychwanegol fel rhan o bris yr ystafell, ac mae gennym wifi rhad ac am ddim yma hefyd.

Cofiwch gysylltu â ni os ydych eisiau pecyn gwybodaeth a manylion llawn am y cyfleusterau yn y Plas.