Helpwch ni i wella profiad ymwelwyr Yr Wyddfa drwy rannu eich adborth. Bydd eich ymatebion yn cefnogi rheolaeth gynaliadwy’r mynydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn esgyn dros 3,000 troedfedd, Yr Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru, yn ogystal â bod yn un o gopaon mwyaf poblogaidd Eryri
Mae’n fynydd eiconig sy’n adnabyddus ledled y byd, ac yn rhan annatod o gymuned fywiog ac egnïol, ac yn gartref i rwydwaith o ffermydd mynyddig Cymreig
Mae dros 600,000 o bobl yn ymweld â’r Wyddfa bob blwyddyn, naill ai yn gerddwyr neu yn deithwyr ar y trên, sy’n golygu fod Yr Wyddfa yn un o’r mynyddoedd prysuraf yn y DU. Gyda phoblogrwydd Yr Wyddfa, daw nifer o heriau, gyda rheolaeth gynaliadwy yn hanfodol ar gyfer gwarchod amgylchedd, treftadaeth a chymunedau’r mynydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Fel rhan o reoli’r Wyddfa mewn ffordd gynaliadwy, tra hefyd yn darparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel, mae’n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o ddata â phosibl gan y rhai sydd wedi ymweld â’r mynydd. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo’r Parc i gynllunio ymlaen, i lunio polisïau, ac i ddatblygu’r gwasanaethau sydd ar gael i drigolion ac ymwelwyr.
Os ydych chi wedi ymweld â’r Wyddfa yn ddiweddar, gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r arolwg ymwelwyr isod. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau gyda phob ymateb yn ddienw.
Cwblhewch yr arolwg drwy ddefnyddio Ffurflen ‘Microsoft’ (yn agor mewn tab newydd).
Diolch yn fawr am eich amser.