Oriau agor

Nid yw Hafod Eryri dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae rhagor o wybodaeth ar oriau agor y ganolfan ar gael ar wefan Rheilffordd yr Wyddfa.

Gwefan Rheilffordd yr Wyddfa

Caffi a Siop

Mae’r caffi yn Hafod Eryri yn gwerthu diodydd a byrbrydau o bastenni Cymreig cynnes i gacennau wedi’u pobi’n ffres. Gellir prynu anrhegion, dillad a chofroddion yn y siop anrhegion.

Lloches ar gopa uchaf Eryri

Hafod Eryri yw un o ganolfannau ymweld mwyaf trawiadol Cymru.

Dylunio gwobrwyedig
Mae Hafod Eryri wedi ennill sawl gwobr am ei dyluniad gan gynnwys Y Fedal Aur am Bensarniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 a gwobr RIBA yn 2010.
Herio’r amgylchiadau
Defnyddiwyd gwenithfaen a derw i adeiladu Hafod Eryri. Dyma ddeunyddiau sy’n gallu gwrthsefyll amgylchiadau heriol y copa.
Enwi Hafod Eryri
Cynhaliwyd cystadleuaeth ar y BBC i enwi’r adeilad newydd ar gopa’r Wyddfa. Dewiswyd Hafod Eryri allan o gannoedd o gynigion.
Canolfan ymwelwyr trawiadol
Yn sefyll 1065m uwch lefel y môr, Hafod Eryri yw’r ganolfan ymwelwyr uchaf yng Nghymru.

Hanes Hafod Eryri

Er nad oes cofnod clir o bryd adeiladwyd yr adeilad cyntaf ar Yr Wyddfa, mae’n debyg bod rhyw fath o loches wedi bod ar y copa ers 1820.

Cytiau pren oedd y llochesi hyn—cytiau a fyddai erbyn 1930 wedi dirywio a’i difrodi’n arw gan dywydd ffyrnig a garw’r Wyddfa.

Fe benderfynwyd adeiladu adeilad aml-bwrpas newydd yn lle’r cytiau hyn. Comisiynwyd Syr Clough Williams-Ellis i ddylunio’r adeilad—pensaer arwyddocaol o’r ardal am ei waith yn cynllunio ac adeiladu pentref Portmeirion ger Porthmadog.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr adeilad ar gyfer gwaith radio a radar arbrofol.

Ym 1982, gyda dyluniad Syr Clough Williams-Ellis yn drech i’r tywydd a’r amgylchiadau heriol, prynwyd yr adeilad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac fe gychwynnwyd proses o gynghori a chynllunio ar adeiladu canolfan newydd ar y copa.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 2001. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ar 12fed Mehefin 2009, agorwyd Hafod Eryri i’r cyhoedd am y tro cyntaf gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.