Mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae academyddion Prifysgol Caer yn gweithio gydag ysgolion lleol i greu casgliad o farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar fynydd mwyaf eiconig Cymru.

I ddathlu iaith, tirwedd a dychymyg, mae Prifysgol Caer wedi partneru gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i lansio prosiect barddoniaeth unigryw sy’n dod â mynydd mwyaf eiconig Cymru, Yr Wyddfa, yn fyw trwy lygaid plant ysgol lleol. Arweiniodd y cydweithrediad creadigol hwn at lyfr barddoniaeth dwyieithog wedi’i ysbrydoli gan lyfrau ymwelwyr hanesyddol ac arddangosfa newydd yng Nghanolfan Groeso Betws-y-Coed, gan gyfuno hanes, celf ac addysg i archwilio pwysigrwydd ac apêl barhaus y mynydd.

Ym mis Mawrth 2025, daeth gweithdy arbennig â 24 o blant (Blynyddoedd 3-6) o ysgolion cynradd lleol yng Nghapel Garmon, Betws-y-Coed, a Dolwyddelan ynghyd. Cafodd yr ysgolion gip sydyn  o’r arddangosfa ymlaen llaw, cyn iddi agor i’r cyhoedd ac mi fuo nhw’n gwrando ar Dr Daniel Bos a Dr Cian Quayle yn trafod hanes twristiaid a’r mynydd, yn ogystal â’r llyfrau ymwelwyr o’r 19eg ganrif a gedwir ar y copa, sydd wedi bod yn ffocws i’r prosiect Olrhain Olion.

Ymunodd gwestai arbennig iawn â’r grŵp, Casia Wiliam, awdur plant Cymru a chyn Fardd Llawryfog Cymru. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ddarnau hanesyddol o lyfrau ymwelwyr, anogodd Casia’r plant i fyfyrio ar eu meddyliau a’u profiadau gyda’r mynydd, gan ddefnyddio eu synhwyrau, eu hatgofion a’u dychymyg i ddod â’r mynydd yn fyw trwy eiriau a brasluniau. Creodd y plant gerddi gwych, gan roi cipolwg ar sut mae’r mynydd yn cael ei weld heddiw.

Yn dilyn y gweithdy, casglodd Dr Alan Summers (3Dpixels) y geiriau a’r lluniadau a gynhyrchwyd gan y plant i greu llyfr barddoniaeth unigryw o’r enw ‘Yr Wyddfa: Olrhain Olion – Dwi’n Cofio…’. Gan ddefnyddio geiriau a brasluniau a ysgrifennwyd â llaw gan y plant, daethpwyd â’r farddoniaeth yn fyw, gan gipio eu profiadau a’u meddyliau o ddringo’r mynydd, yn ogystal â’r hyn a welwyd a’i glywed ar hyd y ffordd. Cyflwynir y cerddi yn ddwyieithog, gan amlygu a dathlu’r cysylltiad cryf rhwng yr iaith Gymraeg a’r dirwedd, gan gynnig cyfleoedd i gefnogi’r rhai sy’n dysgu’r iaith.

Ysbrydolwyd y llyfr gan yr arddangosfa ‘Olrhain Olion: Y Gorffennol, y Presennol a Dyfodol Yr Wyddfa’, sydd i’w gweld ar hyn o bryd yng Nghanolfan Groeso Betws-y-Coed. Mae’r arddangosfa’n deillio o brosiect cydweithredol sy’n cynnwys Prifysgol Caer, gan gynnwys Dr Daniel Bos (Daearyddiaeth a’r Amgylchedd), Dr Cian Quayle (Celf a Dylunio), a Dr Alan Summers (3Dpixels), ynghyd â’r myfyrwyr graddedig Jane Evans ac Emma Petruzzelli, yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r arddangosfa’n cyfuno ymchwil archifol o lyfrau ymwelwyr o’r 19eg ganrif a gedwir ar gopa’r Wyddfa â ffotograffau a delweddau symudol sy’n dogfennu’r profiad modern o’r mynydd. Drwy baru’r darnau hanesyddol o lyfrau ymwelwyr â delweddaeth gyfoes, mae’r arddangosfa’n gwahodd ymwelwyr i ystyried cynaliadwyedd gorffennol, presennol a dyfodol un o fynyddoedd prysuraf y byd.

Meddai Dr Daniel Bos (Daearyddiaeth ac Amgylchedd, Prifysgol Caer)

“Drwy gydweithio’n agos â’r ysgolion lleol, cafwyd cipolwg gwych ar sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’r hanes a’r farddoniaeth a geir yn y llyfrau hynny. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld sut mae pobl ifanc heddiw yn ailddychmygu ac yn canfod y mynydd, gan ddod â safbwyntiau ffres i’n dealltwriaeth o’r lle arbennig hwn ”

“Bu’n arbennig o werthfawr cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddeall rhai o’r heriau y maen nhw a chymunedau lleol yn eu hwynebu wrth warchod a diogelu’r mynydd, yn ogystal ag archwilio sut y gall gwaith creadigol ddylanwadu ar y dirwedd a chynnig safbwyntiau newydd arni.”

“Roedd gallu ymweld â’r ysgolion a’r myfyrwyr a chyflwyno’r llyfrau’n bersonol iddynt yn brofiad cofiadwy. Roedd gweld wynebau’r myfyrwyr a’r cyffro bod eu cerddi bellach yn rhan o lyfr y gallant ei gadw a’i rannu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau yn arbennig o foddhaol.”

Meddai Ioan Gwilym (Pennaeth Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)

“Mae’n bwysig i ni fel sefydliad sy’n helpu i ofalu am y lle hwn, i wrando ar yr hyn y mae’r genhedlaeth nesaf yn ei feddwl ac yn ei deimlo am Yr Wyddfa. Mae cerddi’r plant yn cofnodi’r rhyfeddod, y parch a’r chwilfrydedd y mae cynifer yn eu teimlo pan fyddant yn ymweld â’r mynydd, a sut y gall creadigrwydd ddyfnhau ein cysylltiad â’r dirwedd a’n helpu i feddwl am ei dyfodol. Nid myfyrdodau yn unig yw’r cerddi hyn, maent yn atgof bod y mynydd hwn yn perthyn iddyn nhw hefyd.”

Meddai Nia Artell-Jones (Pennaeth yn ysgolion Dolwyddelan, Capel Garmon a Betws-y-Coed

“Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi bod yn gyfle mor arbennig i’n disgyblion. Mae’r Wyddfa yn fynydd maen nhw i gyd wedi’i brofi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ond drwy farddoniaeth a chelf fe wnaethon nhw ddarganfod ffyrdd newydd o gysylltu â hi ac i rannu’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw. Fe wnaeth gweithio gyda Phrifysgol Caer, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Casia Wiliam danio eu dychymyg, ac roedden nhw i gyd yn falch iawn o weld eu geiriau a’u lluniadau wedi’u dwyn ynghyd mewn llyfr hardd. Mae’n rhywbeth y byddan nhw’n ei gofio am amser hir”.