Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gysylltu gyda natur a chyfarfod ffrindiau newydd tra’n gwarchod tirweddau a chymunedau Parc Cenedlaethol Eryri.
Mewn byd ble mae ein bywydau yn prysuro o ddydd i ddydd, mae’n bwysig ein bod yn cymryd seibiant o bryd i’w gilydd.
Mae gwirfoddoli yn cynnig nifer o fuddiannau. Gallai bod allan yn yr awyr agored wneud gwyrthiau er mwyn gwella iechyd corfforol a meddyliol tra hefyd yn gyfle arbennig i feithrin perthnasau newydd gyda phobl sydd hefyd ac angerdd dros warchod ein tirweddau, bioamrywiaeth a chymunedau lleol.
Gall gwirfoddoli gryfhau eich perthynas gyda’r tir yn ogystal â dysgu mwy am harddwch, hanes a diwylliant y Parc Cenedlaethol – rhywbeth y gallwn gymryd yn ganiataol ar adegau.
Yn 2020 gwirfoddolwyd dros 1,400 o oriau yn uniongyrchol mewn ymgyrchoedd amrywiol dan arweiniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol trwy gynlluniau megis Partneriaeth Caru Eryri, a rhaglen Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa a Chader Idris. Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan wirfoddolwyr yn Eryri yn amhrisiadwy. O godi sbwriel i ddarparu gwybodaeth angenrheidiol am y Parc Cenedlaethol neu gynnal a chadw rhai o’n llwybrau prysuraf, mae pob awr gaiff ei wirfoddoli yn mynd yn bell i warchod beth sy’n gwneud Eryri’n eithriadol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r Awdurdod eleni, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ymweld â’r wefan.
Dywedodd Peter Rutherford, Rheolwr Mynediad a Lles Yr Awdurdod:
“Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch gallu, mae lle i chi gymryd rhan. Eleni mi fyddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd er mwyn diogelu’r Parc Cenedlaethol ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Mi fydd gwirfoddolwyr yn gweithio yn rhai o ardaloedd hyfrytaf Cymru ac yn cydweithio gyda staff yr Awdurdod a gwirfoddolwyr profiadol eraill.”.
Nodyn i Olygyddion
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru
- Mae newyddion am ein ymgyrchoedd a digwyddiadau gwirfoddoli i’w canfod ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ein gwefan.