Mae gennych chi gyfle unigryw i lunio dyfodol Yr Wyddfa, sut fyddwch chi’n bachu arno?
Mae 5% o’r Wyddfa yn ficroblastigau.
Mae criw o wirfoddolwyr wedi casglu dros hanner pwysau car o sbwriel oddi ar y llethrau mewn cyn lleied â chwe mis. Dyna pam y dechreuodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri brosiect Yr Wyddfa Ddi-blastig – i roi diwedd ar y llygredd plastig hwn.
Rwan, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn eich gwahodd chi i’n helpu ni i frwydro yn erbyn y broblem.
Ym mis Medi 2024, gallech chi gael eich galw – ynghyd â disgyblion eraill o bob rhan o Ogledd Cymru – i gyflwyno eich Syniad Mawr i leihau llygredd untro yn COPA1: yr uwchgynhadledd amgylcheddol gyntaf ar Yr Wyddfa.
Os bydd eich Syniad Mawr chi yn un gwerth chweil, byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â ni ar Yr Wyddfa, i’w gyflwyno i arbenigwyr yn eu maes. Bydd yr arbenigwyr yn dweud wrthych sut i wireddu eich syniadau mewn sesiynau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r syniadau. Bydd grŵp buddugol o bob sesiwn yn cael ei ddewis.
Bydd y grwpiau buddugol yn derbyn £1,500 i wireddu eu syniadau a byddant yn cael eu cefnogi gyda mentoriaeth gan yr arbenigwyr y buont yn gweithio â nhw i gyflawni eu prosiectau
Cyflwynwch eich ceisiadau fideo i fynychu COPA1 ac ennill £1,500!
Rhaid datblygu a chyflwyno pob syniad mewn grwpiau o 2-4 disgybl.
Rwan, bydd angen i chi benderfynu sut fyddwch chi’n cyflwyno eich syniad ar ffurf fideo. Mae hyn yn hollol agored i chi o ran fformat, lleoliad, cynnwys ayyb ond mae’n bwysig sicrhau mai 3 munud ar y mwyaf ydi hyd y fideo os gwelwch yn dda.
Danfonwch eich fideo drwy’r ddolen isod erbyn 30 Mai 2024:-
Cyflwyniad COPA1.1
PWYSIG: Fel rhan o’ch fideo, rhowch y wybodaeth ganlynol i ni pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch hun:
- Enwau a chyfenwau aelodau eich grŵp
- Eich blwyddyn ysgol
- Eich ysgol