Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Gwneud mynydd prysuraf Cymru yn fynydd di-blastig

Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Cymru. Mae cannoedd o filoedd yn cyrraedd y copa bob blwyddyn. Oherwydd poblogrwydd yr ardal, mae llygredd plastig yn cael effaith mawr ar y mynydd.

Beth yw Yr Wyddfa Ddi-Blastig?

Yr Wyddfa yw mynydd mwyaf poblogaidd Cymru ac mae sbwriel a gwastraff yn dod yn fygythiad gwirioneddol i’w ddyfodol cynaliadwy. Gellir dod o hyd i wastraff plastig yn arbennig ar y llwybrau a’r ardaloedd cyfagos, ac os na fydd camau mawr yn cael eu cymryd, gwaethygu wnaiff y broblem dros amser.

Mae Yr Wyddfa Ddi-Blastig yn gam pwysig ac uchelgeisiol i warchod dyfodol cynaliadwy’r mynydd.

Beth alla i wneud?

Dyma rhai pethau allwch chi ei wneud i wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig.

Sut gallwn ni i gyd fod yn arwyr?
Mae gwaith arolwg yn dangos bod 85% o bobl yn cymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel, a 71% o bobl yn mynd a'u sbwriel adref gyda nhw. Byddwch yn rhan o'r datrysiad a gwnewch yn siŵr eich bod yn y grŵp hwnnw.
Dim sbwriel yn rhy fach
Ystyriwch eitemau bach fel cadachau gwlyb a bonion sigaréts yn arbennig. Mae'r rhain yn cronni dros amser a gallant achosi'r difrod mwyaf.
Ble alla i ail-lenwi cyn y bryn?
Yn lle prynu poteli plastig untro, dewch ag un y gellir ei hailddefnyddio a'i llenwi cyn i chi ddechrau eich taith gerdded.
Mae croen banana yn sbwriel hefyd!
Mae gwastraff organig yn sbwriel hefyd ac yn cymryd llawer mwy o amser i fioddiraddio ar Yr Wyddfa oherwydd y tywydd ac uchder y tirwedd. Gall y mathau hyn o wastraff hefyd niweidio'r amgylchedd lleol.
Dewiswch opsiynau ailddefnyddiadwy
Gallwch wrthod plastigion untro pan fyddwch yn siopa a dod â’ch bwyd a’ch diodydd mewn cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio. Mae'n well i'r blaned ac yn llai tebygol o gael ei chwythu i ffwrdd yn y gwynt.
Cynlluniwch ymlaen llaw
Meddyliwch ymlaen llaw am yr hyn yr ydych yn ei roi yn eich sach deithio a sut y gallwch wneud eich ymweliad yn rhydd o blastig, heb adael unrhyw olion o’ch taith ar y mynydd!
Three hikers
Pacio ar gyfer eich antur ddi-blastig

Beth i’w bacio er mwyn chwarae eich rhan chi yn yr ymgyrch i wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Pacio’n Ddi-Blastig

Camera banana logo
Pa mor hir mae'n gymryd i groen banana bydru?

Yn cyflwyno Camera Banana—ffrwd fideo byw o groen banana yn pydru ar ucheldir Yr Wyddfa.

Camera Banana

A make-up artist gives finishing touches to a model's make up on location on a promotional shoot.
Arwyr y gorffennol yn ysbrydoli arwyr y dyfodol

Arwyr y Mabinogion yn dod yn fyw i ysbrydoli newid ar lethrau’r Wyddfa.

Mabinogion Di-Blastig

Enghreifftiau o blastigion untro

Dyma rai enghreifftiau o’r eitemau plastig untro a ddarganfuwyd fwyaf gan wirfoddolwyr ar Yr Wyddfa (Ydi! Mae’r rhain i gyd yn cynnwys plastig)!

Poteli diod
Cwpanau coffi tecawê
Pecynnau creision a da-da
Bonion sigaréts
Cadachau gwlyb

Pam ‘Di-Blastig’?

Mae plastig yn ddeunydd ysgafn, hyblyg a rhad sy’n ymarferol at lawer o ddefnyddiau. Mae’r byd yn cynhyrchu digon ohono hefyd — bron i 400 miliwn tunnell y flwyddyn.

Ond, yn anffodus, mae gan blastig ei anfanteision. Mae’n ddeunydd sy’n cael ei wneud o gemegau sy’n dod o gynhyrchu tanwyddau fel olew a nwy sy’n niweidiol i’r byd. Os na cheir gwared o blastig yn briodol, gall gael effaith niweidiol ar ein bywyd gwyllt a’n tirweddau; a diweddu’n ein hafonydd a’n moroedd, gan achosi niwed pellach. Gall plastig gymryd cannoedd o flynyddoedd i fioddiraddio, a hyd yn oed wedi hynny, mae’r plastig yn dal i fodoli ar raddfa feicroscopig a gyfeirir atynt fel ‘meicroblastigau’. Gall meicroblastigau gwenwynig fynd i mewn i’n cyrsiau dŵr, a’r gadwyn fwyd. Dangosodd arolwg diweddar fod samplau pridd o’r Wyddfa eisoes yn cynnwys hyd at 5% o ficroblastigau.

Drwy leihau gwastraff plastig ar Yr Wyddfa rydym hefyd yn taflu goleuni ar y mater ehangach o sbwriel yn y Parc Cenedlaethol. Wrth ddynodi’r Wyddfa fel ‘Parth Di-Blastig’, gallwn godi ymwybyddiaeth o’r difrod y mae mathau eraill o wastraff yn ei gael ar y mynydd hefyd (gan gynnwys croen banana!).

Beth mae ‘Di-Blastig’ yn ei olygu?

Ni all gwneud yr Wyddfa yn fynydd di-blastig ddigwydd dros nos, felly bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cefnogi ymwelwyr, busnesau ac ysgolion i ymuno ar y ‘Llwybr Di-Blastig’ ac i ddysgu sut i warchod y mynydd gyda’n gilydd. Y nod yw lleihau faint o blastigau untro sy’n cael eu gwerthu, eu defnyddio a’u taflu ar fynydd prysuraf Cymru yn ogystal ag o amgylch y mynydd. Y gobaith yw dileu pob plastig diangen o’r llif gwastraff yn y dyfodol!

Bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar plastigau untro ar gyfer y prosiect, gan mai dyma sydd i’w cael amlaf ar Yr Wyddfa, yn ogystal â lle rydym yn meddwl y gallwn effeithio ar newid ar unwaith.

Plastic Free Yr Wyddfa logo on a dark-blue background.
Ydych chi'n fusnes sy'n gweithredu yn ardal Yr Wyddfa?
Gall eich busnes chi gyfrannu at wneud Yr Wyddfa'n fynydd di-blastig cynta'r byd.
Busnesau Di-blastig