Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Cymru o bell ffordd. Ym mis Awst 2021, dringodd 115,000 o bobl i’r copa ar hyd ei llwybrau heriol niferus.

Mae arolygon yn dangos bod 85% o bobl yn cymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel. Fodd bynnag, i hawlio Yr Wyddfa fel y mynydd di-blastig cyntaf yn y byd, bydd angen 100% o bobl i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel.

Yn ffodus, mae digonedd o ffyrdd hawdd a chyllideb-gyfeillgar o wneud eich taith i gopa’r Wyddfa yn ddi-blastig a sicrhau eich bod yn rhan o’r ganran gynyddol o bobl sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel.

Cyn i chi gychwyn

Mae bob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybr heriol

Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w ddringo. Dylech fod yn hyderus iawn yn eich sgiliau mynydda cyn mentro ar unrhyw un o’r llwybrau i’r copa. Efallai y byddwch yn dod o hyd i rai llwybrau a ddisgrifir fel llwybrau ‘haws’ i’r copa. Fodd bynnag, ni ddylech o bell ffordd ystyried y llwybrau hyn yn ‘hawdd’. Mae pob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybrau heriol.

Dringo’r Wyddfa

Pacio ar gyfer eich antur ddi-blastig

Manteisio ar fuddion cynhwysyddion ailddefnyddiadwy

Mae pacio potel ddŵr yn hanfodol ar gyfer eich taith i gopa’r Wyddfa. Erbyn hyn, mae poteli dŵr ailddefnyddiadwy yn eitemau hawdd i’w cael sy’n dileu’r angen am boteli plastig untro. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llenwi’ch potel ailddefnyddiadwy cyn i chi gychwyn ar eich taith.

Cinio

Mae cario bocs bwyd nid yn unig yn ymarferol ond hefyd yn ddewis sy’n ymwybodol o’r amgylchedd. Paciwch eich darpariaethau mewn cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, gan sicrhau bod yr holl wastraff, gan gynnwys gwastraff organig fel croen banana a creiddiau afal, yn dychwelyd gyda chi. Drwy fabwysiadu meddylfryd “peidiwch â gadael unrhyw olion”, rydym yn cadw’r dirwedd ac yn ei diogelu rhag effaith sbwriel.

Prynu’n dymhorol

Mae cefnogi ffermwyr a busnesau lleol yn ffordd wych o leihau eich ôl-troed amgylcheddol. Dewiswch gynnyrch lleol a thymhorol i’w bacio yn eich bocs bwyd. Nid yn unig y bydd hyn yn lleihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â chludo bwydydd dros bellteroedd mawr, ond bydd hefyd yn gyfle i chi dreialu rhai o danteithion lleol Eryri.

Dillad Cynaliadwy

O ran dillad, dylech roi blaenoriaeth i eitemau ail-law neu sydd wedi ei gwneud o ddeunyddiau naturiol. Ystyriwch os oes cyfle i brynu ddillad ail-law yn hytrach na phrynu eitemau newydd sbon. Gallwch gymryd rhan mewn cyfnewidfa offer awyr.

Papur Lapio Bwyd Eco-Gyfeillgar

I gadw eich byrbrydau yn ffres ac i leihau gwastraff plastig, lapiwch eich bwyd mewn papur neu defnyddiwch lapiadau cwyr gwenyn. Mae’r dewisiadau amgen hyn yn ailddefnyddiadwy, yn gompostiadwy, ac yn rhydd o gemegau niweidiol, gan sicrhau bod eich byrbrydau’n aros yn ffres heb adael unrhyw olion ar ôl.

Cadw’n ddiogel

Er ei bod yn bwysig pacio’n gynaliadwy, mae’n hanfodol blaenoriaethu diogelwch. Cyn cychwyn ar eich taith, dylech ymgyfarwyddo a’r canllawiau diogelwch mynydd perthnasol a bod yn ymwybodol bod dringo’r Wyddfa yn dasg heriol sydd ond yn addas i fynyddwyr profiadol yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch mynydd a dringo’r Wyddfa, gweler canllawiau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Cyngor ar Ddiogelwch
Dringo’r Wyddfa