Mae’r Wyddfa yn fynydd anodd i’w ddringo. Nid ar chwarae bach y dylid mentro i’r copa. Mae elfennau fel y tymhorau, eich lefel ffitrwydd, eich sgiliau mynydd, eich paratoadau cyn cychwyn a phoblogrwydd y mynydd i gyd yn cael effaith ar eich profiad o’r Wyddfa.
Yr Wyddfa yw copa uchaf Eryri ac er fod sawl mynydd yn sefyll dros 3,000 troedfedd yn y Parc Cenedlaethol, nid oes un yn dod yn agos at boblogrwydd y mynydd enwog hwn.
















Na. Mae llwybrau i gyrraedd copa’r Wyddfa yn lwybrau anodd i’w dringo. Mae taith i’r copa ac yn ôl yn oddeutu 7-9 milltir. Dylech fod yn gyfforddus â cherdded y pellteroedd yma cyn dringo’r Wyddfa. Dylech hefyd fod yn gyfforddus â cherdded i fyny ac i lawr llethrau serth a chreigiog.
Cofiwch hefyd fod dod yn ôl lawr o’r copa yn gallu bod yn anoddach na cherdded i’r copa ei hun.
Mae’n gallu bod yn syniad da i geisio llwybr haws cyn dringo’r Wyddfa. Mae llawer o lwybrau addas ar gael ar y wefan hon lle y gallwch brofi’ch lefel ffitrwydd.
Mae’n dibynnu ar ba un o’r chwe llwybr rydych chi am ei ddefnyddio i gyrraedd y copa. Mae maes parcio addas ar gychwyn pob llwybr. Fodd bynnag, mae meysydd parcio ar gyfer y llwybrau poblogaidd yn llewni’n gyflym yn ystod adegau prysur y gwanwyn ar haf.
Mae arwyddion mewn mannau lle mae llwybrau i’r copa yn croesi ond ni ddylech ddibynnu ar rhain i gyrraedd y copa. Bydd angen i chi ddod i adnabod y llwybr cyn i chi ddechrau ar eich taith. Mae cyfarwyddiadau ar y wefan hon y gallwch chi eu dilyn ar hyd y llwybr. Dylech hefyd wybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd i gyfeirio ar y mynydd.
Na. Nid yw ‘trainers’ yn addas ar gyfer dringo’r Wyddfa. Dylech wisgo esgidiau cerdded pwrpasol. Mae gan yr esgidiau hyn wadnau trwchus i warchod sodlau eich traed ac i sicrhau gafael da dan draed. Mae ymylon uchel esgidiau cerdded yn cefnogi eich phêr sy’n lleihau’r risg o droi eich phêr ar hyd y daith.
Mae dringo’r Wyddfa yn gallu bod yn berryg ac mae angen i bob unigolyn gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch eu hunain. Hyd yn oed gyda’r offer pwrpasol, mae llawer o beryglon sydd angen bod yn ymwybodol ohonynt. Un o’r prif beryglon yw’r tywydd. Gall tywydd ar y mynydd newid o fewn munudau. Cofiwch wirio’r tywydd cyn cychwyn eich taith a chadw llygaid craff am unrhyw newidiadau yn ystod eich taith. Os yw amodau’r tywydd yn mynd tu hwnt i’ch gallu, dylech droi’n ôl ar unwaith.
Yn ystod y gaeaf, gall rhan helaeth o gopa’r Wyddfa fod wedi ei orchuddio ag eira. Wrth i eira gywasgu, mae’n mynd yn hynod llithrig. Mae hi’n amhosib cyrraedd y copa heb offer mynydda arbenigol yn ystod yr amgylchiadau hyn.
Dros y gaeaf, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi Adroddiad Amodau dan Draed dyddiol. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gwybodaeth ar elfennau fel y tywydd ar Yr Wyddfa yn ogystal â rhwystrau megis eira a rhew.
Dylech alw 999 a gofyn am yr heddlu ac yna’r wasanaeth Achub Mynydd. Byddant yn holi am eich:
- Lleoliad
- Enw, rhyw ac oed
- Natur eich argyfwng neu anafiadau
- Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
- Rhif ffôn symudol
Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud mewn argyfwng ar y mynydd ar wefan Adventure Smart.