Llwybr serth i fyny llethrau deheuol yr Wyddfa gan gychwyn yn Nant Gwynant
Mae Llwybr Watkin yn un o’r chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa. Gan ddechrau ychydig dros lefel y môr, mae’n esgyn yn serth i fyny llethrau deheuol massif yr Wyddfa, gan groesi sgri rhydd cyn ymuno â Llwybr Rhyd Ddu i’r copa.
Pam y llwybr hwn?
Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi categori ar yr holl lwybrau i fyny’r Wyddfa fel llwybrau anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd, ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.
Mae Llwybr Watkin yn llwybr arbennig o heriol i gopa’r Wyddfa. Dylai cerddwyr sy’n ystyried eu taith gerdded gyntaf i fyny’r Wyddfa roi cynnig ar un o’r llwybrau eraill.
Adroddiadau Amodau Dan Draed
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf
Dechrau/Diwedd
Maes parcio Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 627 507)
Map OS Perthnasol
Arolwg OrdnansExplorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.
Gallwch gyrraedd Llwybr Watkin ar wasanaeth Sherpa’r Wyddfa o amryw o leoedd gan gynnwys Porthmadog, Caernarfon, Betws y Coed a Bangor.
Arhosfan Bws Llwybr Watkin
Pont Bethania
Maes Parcio Porthmadog ar Google Maps
Maes Parcio Caernarfon ar Google Maps
Maes Parcio Betws y Coed ar Google Maps
Mae gan Fangor nifer o feysydd parcio addas.
Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.
Parcio
Maes Parcio Pont Bethania
Maes Parcio Pont Bethania ar Google Maps
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w heicio. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.
Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.
Hanes Llwybr Watkin
Wedi’i enwi ar ôl Syr Edward Watkin, Aelod Seneddol Rhyddfrydol a datblygwr rheilffyrdd, Llwybr Watkin oedd y llwybr cyhoeddus dynodedig cyntaf ym Mhrydain.
Wedi ymddeol, symudodd Syr Watkin i gaban yng Nghwm Llan ar odre’r Wyddfa. Roedd trac o Gwm Llan i Chwarel Lechi De’r Wyddfa eisoes yn bodoli felly er mwyn galluogi ymwelwyr i gerdded yr holl ffordd i fyny’r Wyddfa fe greodd Edward Watkin lwybr o’r chwarel i’r copa.
Agorwyd Llwybr Watkin yn swyddogol gan y Prif Weinidog William Gladstone ym 1892. Anerchodd dorf o dros 2,000 o bobl oddi ar graig fawr ar ochr y llwybr. Gelwir y graig hyd heddiw yn Graig Gladstone.
Chwarel Lechi De’r Wyddfa
Ar hyd Llwybr Watkin, fe welwch nifer o weddillion Chwarel Lechi De’r Wyddfa. Byddwch yn dod ar draws Clogwyn Brith am y tro cyntaf, tua 1.5km ar hyd y llwybr. Yma efallai y sylwch ar hollt fechan ar gopa’r llethrau ar y chwith i chi. Gweddillion yr hen dramffordd oedd yn arfer mynd a wagenni llawn llechi i lawr i Bont Bethania yw’r hollt hon.
Ymhellach i fyny’r llwybr, fe ddowch ar draws adfeilion Plas Cwm Llan, cyn gartref rheolwr y chwarel. Byddwch hefyd yn mynd heibio’r hen chwarel ei hun wrth i chi fynd o gwmpas Craig Ddu.
Bwlch y Saethau
Wrth i chi fynd tuag copa’r Wyddfa, yn uchel uwchben Glaslyn, byddwch yn croesi Bwlch y Saethau. Arferai mwynwyr o Feddgelert ddringo dros y bwlch hwn gyda chymorth cadwyni haearn a oedd wedi’u gosod ar y graig.
Yn ôl y chwedl, dyma lle y bu i’r Brenin Arthur gael ei daro gan saeth mewn brwydr. Cariwyd ef at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.