Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
MAES PARCIO PEN Y PASS: Gellir nawr ragarchebu lle parcio ym Mhen y Pass.

Llwybr i gopa’r Wyddfa gan gychwyn ym mhentref bychan Rhyd Ddu

Mae Llwybr Rhyd Ddu yn un o ddau lwybr i gopa’r Wyddfa sy’n dringo llethrau gorllewinol massif yr Wyddfa. Mae’n cynnig golygfeydd mynyddig trawiadol, yn enwedig i gyfeiriad Moel Hebog a bryniau Nantlle.

Mae’r filltir gyntaf yn dringo’n raddol ar hyd yr hen drac a wasanaethai chwarel lechi Bwlch Cwm Llan cyn esgyn yn serth dros dir creigiog i grib Llechog. Mae’r llwybr yn dilyn y grib i gyfeiriad Bwlch Main cyn y ddringfa olaf i’r copa.

Pam y llwybr hwn?

Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dosbarthu’r holl lwybrau i fyny’r Wyddfa fel llwybrau anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd, ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.

Mae rhai rhannau o ran olaf o lwybr Rhyd Ddu yn arwain ar hyd llwybr cul a chreigiog gyda llethrau serth oddi tano. Rhaid bod yn ofalus iawn ar y rhannau hyn. Dim ond cerddwyr profiadol gydag offer arbenigol ddylai fentro heibio’r pwynt hwn yn ystod tywydd rhewllyd neu aeafol.

Yn addas ar gyfer:
Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd.  Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Rhyd Ddu, oddi ar yr A4085 (SH 571 526)

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Rhyd Ddu
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn ddewis gwych i gael mynediad i holl lwybrau’r Wyddfa.

Safle Bws Rhyd Ddu 
Gwasanaeth bws S3. Mae’r bws yn stopio ger Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri yn Rhyd Ddu lle mae’r llwybr yn cychwyn.

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Sherpa’r Wyddfa

Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w dringo. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.

Dringo’r Wyddfa
Cyngor ar Ddiogelwch

Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.

Digwyddiadau Trefnedig

Tirwedd ddiwydiannol

Yn ystod rhan gyntaf y llwybr, byddwch yn mynd heibio i weddillion Chwarel Lechi’r Ffridd, a oedd yn gweithio tan y 1860au. Mae arwyddion o chwarela, mwyngloddio a diwydiant i’w gweld ar draws llethrau’r Wyddfa, gan gynnwys Chwarel Lechi De’r Wyddfa ar hyd llwybr Watkin a gwaith copr Britannia ar y Pyg a’r Mwynwyr.

Chwarela, mwyngloddio a ffermio oedd prif fywoliaeth yr ardal ar un adeg, gyda phentrefi fel Rhyd Ddu wedi’u hadeiladu’n gyfan gwbl i gartrefu teuluoedd y chwarelwyr. Mae ffermio yn parhau i fod yn un o brif fywoliaeth y Parc Cenedlaethol heddiw, ac mae mynyddoedd fel yr Wyddfa yn gartref i glytwaith enfawr o ffermydd mynydd.

Ogof Owain Glyndŵr

Mae pwynt hanner ffordd y llwybr yn cynnig cyfle i edrych i lawr dros olygfeydd trawiadol Rhyd Ddu gyda Llyn y Gadair a Llyn Cwellyn bob ochr i’r pentref.

Ar y gorwel, o’r chwith i’r dde, mae copaon Moel Hebog, Moel yr Ogof, Moel Lefn, Mynydd Drws y Coed a’r Garn, gyda Mynydd Mawr yn codi o lan bellaf Llyn Cwellyn.

Yn ôl y chwedl, bu i Owain Glyndŵr, un o dywysogion mwyaf adnabyddus Cymru, unwaith guddio rhag ei elynion mewn ogof ar lethrau Moel yr Ogof.

Yn ôl yr hanes, roedd Glyndŵr yn cael ei erlid gan filwyr o Loegr a dringo i fyny hollt 300 troedfedd o graig ar Foel Hebog. Gwrthododd y milwyr ddringo’r graig ar ôl Glyndŵr, gan ddychwelyd i Feddgelert gerllaw. Daeth Glyndŵr ar draws ogof lle bu’n cuddio nes i’r milwyr ddychwelyd i Loegr. Mae’r ogof wedi cael ei hadnabod fel Ogof Owain Glyndŵr ers hynny.

Llwybrau eraill i gopa'r Wyddfa
This site is registered on wpml.org as a development site.