Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr serth a chreigiog i gopa’r Wyddfa gan gychwyn o Ben y Pass

Mae Llwybr y Mwynwyr yn un o ddau lwybr sy’n cychwyn ym Mhen y Pass. Bydd y trac yn mynd â chi ar hyd glannau Llyn Teyrn, Llyn Llydaw a Glaslyn cyn esgyn yn serth i gwrdd â Llwybr Llanberis i’r copa.

Adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr yn wreiddiol i wasanaethu Mwynglawdd Copr Britannia. Gellir gweld olion mwynglawdd ar hyd y llwybr.

Pam y llwybr hwn?

Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dosbarthu’r holl lwybrau i fyny’r Wyddfa fel llwybrau anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd, ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.

Mae trac y Mwynwyr yn llwybr poblogaidd sy’n cychwyn o Ben y Pass. Mae hanner olaf y llwybr yn esgyniad heriol a serth sy’n gofyn am ddringo craig rydd a sgri.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel un Anodd/Llafurus. Dim ond ar gyfer cerddwyr  profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd y mae’n addas. Mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw a gall gynnwys rhai darnau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydd yn hanfodol, ac efallai y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau / Diwedd
Maes Parcio Pen-y-Pass (SH 647 557)

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.

Mae’r cysylltiadau gorau i Lwybr y Mwynwyr yn cychwyn o Nant Peris neu Llanberis. Mae hefyd cysylltiadau gwych o Fetws y Coed, Caernarfon a Bangor.

Arhosfan Bws Llwybr y Mwynwyr
Pen y Pass

S1
S2
S5
O Nant Peris neu Llanberis
S1
O Fetws y Coed neu Caernarfon
S2
O Fangor

Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.

Cyrraedd Yr Wyddfa
Gwefan Sherpa’r Wyddfa

Parcio
Maes Parcio Pen y Pass

Exclamation icon
Os yn parcio ym Mhen y Pass, bydd rhaid rhagarchebu lle ymlaen llaw.

Gwybodaeth am Faes Parcio Pen y Pass

Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa:

Maes Parcio Nant Peris ar Google Maps
Maes Parcio Llanberis ar Google Maps
Maes Parcio Betws y Coed ar Google Maps
Maes Parcio Caernarfon ar Google Maps

Os yn parcio ym Mangor, mae nifer o feysydd parcio ar gael.

Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w heicio. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.

Dringo’r Wyddfa
Cyngor Ar Ddiogelwch

Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.

Digwyddiadau Trefnedig

Gorsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli

Wrth i chi gychwyn ar eich taith ar hyd Llwybr y Mwynwyr, efallai y sylwch ar bibell ddŵr yn ymestyn i lawr y dyffryn ar y chwith i chi. Mae’r bibell hon yn cyflenwi dŵr o Lyn Llydaw i orsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli yn Nyffryn Gwynant. Dyma’r orsaf bŵer hynaf ym Mhrydain.

Adeiladwyd pwerdy Cwm Dyli yn wreiddiol i gyflenwi trydan ar gyfer rheilffordd drydan trwy Ddyffryn Gwynant. Bwriad y rheilffordd oedd cysylltu chwareli llechi a mwyngloddiau’r ardal, ond rhoddwyd y gorau i’r gwaith. Fodd bynnag, ym 1906, comisiynwyd yr orsaf bŵer i gyflenwi trydan i’r Grid Cenedlaethol ac mae wedi bod yn weithredol ers hynny.

Sarn Llyn Llydaw

Wrth i chi esgyn Llwybr y Mwynwyr, byddwch yn croesi’r sarn yn Llyn Llydaw. Cyn cael ei adeiladu ym 1853, roedd gweithiwyr y Mwynglawdd Copr Britannia yn defnyddio rafft i gludo ceffylau a wagenni yn llawn copr ar draws y llyn. Wrth wneud y gwaith adeiladu datgelwyd ceufad derw cynhanesyddol, 10 troedfedd wrth 2 droedfedd, sy’n dangos bod pobl wedi crwydro’r mynydd hwn ers miloedd o flynyddoedd.

Mwynglawdd Copr Britannia

Adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr i wasanaethu Mwynglawdd Copr Britannia. Fodd bynnag, nid y trac oedd y llwybr a ddefnyddiwyd i wasanaethu’r pwll i ddechrau. Cyn i’r llwybr ddod i fodolaeth, byddai gweithiwyr y mwynglawdd yn llusgo copr i fyny llethrau dwyreiniol yr Wyddfa i’w dynnu gan geffyl a sled i lawr i Lyn Cwellyn. O Lyn Cwellyn, cludwyd y copr ar geffyl a chert i Gaernarfon.

Pan adeiladwyd y ffordd o Lanberis i Ben y Pass, roedd Llwybr y Mwynwyr yn ddewis mwy ymarferol i gludo’r copr o’r mwynglawdd.

Mae adfeilion Mwynglawdd Copr Britannia yn cynnwys y felin falu a rhai o farics y glowyr.

Bwlch y Saethau

Wrth edrych ar draws Glaslyn, i’r chwith o gopa’r Wyddfa, fe welwch Fwlch y Saethau. Arferai’r gweithiwyr o Feddgelert ddringo dros y bwlch hwn gyda cadwyni haearn a oedd wedi’u gosod ar y graig.

Yn ôl y chwedl, dyma lle y bu i’r Brenin Arthur gael ei daro gan saeth mewn brwydr.  Cariwyd ef at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.

Llwybrau eraill i gopa'r Wyddfa