Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yr Wyddfa yw copa uchaf a prysuraf Cymru. P’un a ydych chi’n bwriadu cerdded i’r copa neu ymweld â’r ardal gyfagos, mae cynllunio sut i gyrraedd Yr Wyddfa yn hanfodol.

Mae dros 600,000 o bobl yn cyrraedd copa eiconig Yr Wyddfa bob blwyddyn naill ai ar droed neu ar drên. Mae mwy o opsiynau nag erioed i gyrraedd ardal Yr Wyddfa gan gynnwys gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.

Cyn i chi gychwyn

Mae pob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybrau heriol
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w ddringo. Dylech fod yn hyderus iawn yn eich sgiliau mynydda cyn mentro ar unrhyw un o’r llwybrau i’r copa. Efallai y byddwch yn dod o hyd i rai llwybrau a ddisgrifir fel llwybrau ‘haws’ i’r copa. Fodd bynnag, ni ddylech o bell ffordd ystyried y llwybrau hyn yn ‘hawdd’. Mae pob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybrau heriol.

Dylech hefyd sicrhau eich bod wedi ymgyfarwyddo â’r holl wybodaeth angenrheidiol ar dudalen Dringo’r Wyddfa Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan gynnwys gwybodaeth beth i’w ddisgwyl, sut i baratoi ar gyfer eich taith a’r ffyrdd gorau a mwyaf effeithlon o gyrraedd eich llwybr.

Dringo’r Wyddfa

Graphic illustration of Sherpa'r Wyddfa bus against a mountainous backdrop.

Cyrraedd Yr Wyddfa

Mae’r llwybrau i gopa’r Wyddfa i gyd yn cychwyn o bentrefi bach neu ardaloedd gyda lle cyfyngedig iawn ar gyfer parcio. Yn aml gall poblogrwydd Yr Wyddfa, yn enwedig yn ystod tymhorau prysur y gwanwyn a’r haf, achosi problemau parcio a thrafnidiaeth, gan effeithio ar y cymunedau lleol. Dyna pam yr argymhellir defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa i gyrraedd ardal Yr Wyddfa.

Gwefan Sherpa’r Wyddfa

Mae’r ffordd rydych chi’n defnyddio gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn dibynnu’n bennaf ar ba lwybr rydych chi’n bwriadu ei gymryd i’r copa. Mae chwe llwybr llwybr i gopa’r Wyddfa—pob un â’i heriau a’i nodweddion unigryw. Yn ddi-os dylech wneud yn siŵr eich bod wedi ymchwilio i ba lwybr sydd orau i’w ddilyn cyn i chi fentro i’r copa.

Mae gwefan Traveline Cymru yn adnodd defnyddiol ar gyfer amserlenni bysiau a chynllunio eich taith.

Snowdon Mountain Railway carriage ascends along the Llanberis Path

Llwybr Llanberis

Mae Llwybr Llanberis yn cychwyn ym mhentref Llanberis. Dyma’r llwybr mwyaf poblogaidd i gopa’r Wyddfa. Mae hefyd yn un o’r llwybrau sydd â’r mynediad trafnidiaeth gyhoeddus gorau. Mae dechreubwynt Llwybr Llanberis yn daith gerdded fer, 10 munud o safle bws Cyfnewidfa Llanberis.

Mae cyrraedd safle bws Cyfnewidfa Llanberis yn haws nag erioed gyda gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol i’r safle bws o ardaloedd fel Bangor, Caernarfon a Betws y Coed.

S2
Bangor i Gyfnewidfa Llanberis

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 50 munud

Safle Bws Bangor ar Google Maps

Parcio ym Mangor
Mae nifer o feysydd parcio addas ym Mangor

S1
Caernarfon i Gyfnewidfa Llanberis

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 25 munud

Safle Bws Caernarfon ar Google Maps

Parcio yng Nghaernarfon
Maes Parcio Aml-lawr Penllyn

Maes Parcio Penllyn ar Google Maps

S1
Betws y Coed i Gyfnewidfa Llanberis

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 40 munud

Safle Bws Betws y Coed ar Google Maps

Parcio ym Metws y Coed
Maes Parcio Cae Llan

Maes Parcio Cae Llan ar Google Maps

View of Snowdon summit from the shore of Llyn Llydaw

Llwybrau Mwynwyr a Pyg, Pen y Pass

Mae Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg yn cychwyn o Ben y Pass. Mae cyrraedd Pen y Pass ar wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn hynod o hawdd gyda chysylltiadau uniongyrchol o Nant Peris a Llanberis neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd ym Mangor, Caernarfon a Betws y Coed.

Exclamation icon
Mae maes parcio Pen y Pass yn awr yn gweithredu ar sail talu ac arddangos.

Gwybodaeth am Faes Parcio Pen y Pass

S1
S2
S5
Nant Peris i Ben y Pass

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 15 munud

Safle Bws Nant Peris ar Google Maps

Parcio yn Nant Peris
Maes Parcio Nant Peris

Maes Parcio Nant Peris ar Google Maps

S1
S2
S5
Llanberis i Ben y Pass

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 20 munud

Safle Bws Llanberis ar Google Maps

Parcio yn Llanberis
Maes Parcio Dolbadarn/Padarn Park

Maes Parcio Llanberis ar Google Maps

S1
Betws y Coed i Ben y Pass

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 20 munud

Safle Bws Betws y Coed ar Google Maps

Parcio ym Metws y Coed
Maes Parcio Cae Llan

Maes Parcio Cae Llan ar Google Maps

S1
Caernarfon i Ben y Pass

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 45 munud

Safle Bws Caernarfon ar Google Maps

Parcio yng Nghaernarfon
Maes Parcio Aml-lawr Penllyn

Maes Parcio Penllyn ar Google Maps

The Watkin path leads up along a river

Llwybr Watkin

Exclamation icon
Mae parcio ar gyfer Llwybr Watkin yn gyfyngedig iawn! Defnyddiwch wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.

Os ydych chi’n ystyried dringo Llwybr Watkin, yn ddi-os dylech ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa i gyrraedd yno. Mae parcio yn Nant Gwynant, lle mae Llwybr Watkin yn cychwyn, yn gyfyngedig iawn. Mae’r maes parcio yn aml yn llawn erbyn 7:30am gan arwain at dagfeydd ac achosi problemau sylweddol yng nghymuned leol Nant Gwynant.

Mae defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn ffordd cyflym ac effeithlon o gyrraedd Llwybr Watkin.

S4
Porthmadog i Bont Bethania

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 35 munud

Safle Bws Porthmadog ar Google Maps

Parcio ym Mhorthmadog
Maes Parcio Llyn Bach neu Iard-yr-Orsaf

Maes Parcio Llyn Bach ar Google Maps
Maes Parcio Iard-yr-Orsaf ar Google Maps

S3
Caernarfon i Feddgelert
S4
Beddgelert i Bont Bethania

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Newid o wasanaeth S3 i wasanaeth S4 ym Meddgelert
Hyd y daith: Oddeutu 45 munud

Safle Bws Caernarfon ar Google Maps

Parcio yn Nghaernarfon
Maes Parcio Aml-lawr Penllyn

Maes Parcio Penllyn ar Google Maps

S1
Betws y Coed i Ben y Pass
S4
Pen y Pass i Bont Bethania

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Newid o wasanaeth S1 i wasanaeth S4 ym Mhen y Pass
Hyd y daith: Oddeutu 50 munud

Safle Bws Betws y Coed ar Google Maps

Parcio ym Metws y Coed
Maes Parcio Cae Llan

Maes Parcio Cae Llan ar Google Maps

S2
Bangor i Ben y Pass
S4
Pen y Pass i Bont Bethania

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Newid o wasanaeth S2 i wasanaeth S4 ym Mhen y Pass
Hyd y daith: Oddeutu 2 awr

Safle Bws Bangor ar Google Maps

Parcio ym Mangor
Mae nifer o feysydd parcio addas ym Mangor

View of Llyn Cwellyn from the Rhyd Ddu Path to Snowdon's summit

Rhyd Ddu Path and Snowdon Ranger

Both the Rhyd Ddu Path and Snowdon Ranger routes ascend the western slopes of Yr Wyddfa. The Rhyd Ddu Path starts from the village of Rhyd Ddu and the Snowdon Ranger starts from the shores of Llyn Cwellyn.

The best direct link to both paths is from Caernarfon. However, there are good links from Porthmadog as well.

S3
Caernarfon i Snowdon Ranger YHA / Orsaf Rhyd Ddu

Ar gyfer Llwybr Cwellyn, defnyddiwch arhosfan Snowdon Ranger YHA
Ar gyfer Llwybr Rhyd Ddu, defnyddiwch arhosfan Gorsaf Rhyd Ddu
Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Hyd y daith: Oddeutu 20-25 munud

Safle Bws Caernarfon ar Google Maps

Parcio yng Nghaernarfon
Maes Parcio Aml-lawr Penllyn

Maes Parcio Penllyn ar Google Maps

S4
Porthmadog i Feddgelert
S3
Beddgelert i Snowdon Ranger YHA / Orsaf Rhyd Ddu

Ar gyfer Llwybr Cwellyn, defnyddiwch arhosfan Snowdon Ranger YHA
Ar gyfer Llwybr Rhyd Ddu, defnyddiwch arhosfan Gorsaf Rhyd Ddu
Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa
Newid o wasanaeth S4 i wasanaeth S3 ym Meddgelert
Hyd y daith: Oddeutu 35 munud

Safle Bws Porthmadog ar Google Maps

Parcio ym Mhorthmadog
Maes Parcio Llyn Bach neu Iard-yr-Orsaf

Maes Parcio Llyn Bach ar Google Maps
Maes Parcio Iard-yr-Orsaf ar Google Maps