Sut i gyrraedd Pen y Pass

Pen y Pass yw’r dechreubwynt ar gyfer Llwybrau’r Mwynwyr a Pyg sy’n arwain at gopa’r Wyddfa. Mae’n hanfodol cynllunio sut i gyrraedd Pen y Pass ymlaen llaw yn ystod y misoedd prysur rhwng Mawrth a Tachwedd.

Sherpa’r Wyddfa

Un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon o gyrraedd Pen y Pass yw defnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae’r gwasanaeth yn golygu y gallwch barcio yn Nant Peris, Llanberis neu Gaernarfon a gwneud defnydd o gysylltiadau uniongyrchol â Phen y Pass. Gall y gwasanaeth hefyd fynd â chi i Ben y Pass o Fangor.

Gwefan Sherpa’r Wyddfa

Tacsi neu liffd

Mae cael liffd gan ffrind neu dacsi yn ffordd effeithol arall i gyrraedd Pen y Pass. Ystyriwch yr opsiwn yma os yw’r maes parcio yn llawn. Byddwch yn barod i adael y cerbyd erbyn cyrraedd y maes parcio er mwyn osgoi tagfeydd.

Maes parcio Pen y Pass

Mae’n rhaid i chi archebu eich lle parcio ymlaen llaw ar gyfer parcio ym Mhen y Pass a gallwch wneud hynny drwy wefan JustPark isod. Os yw’r maes parcio yn llawn, cynghorir ymwelwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw ac ystyried meysydd parcio eraill neu ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol.

 

Cwestiynau cyffredin ynghylch Pen y Pass

Mae llefydd parcio pwrpasol ar gael ar gyfer deiliaid bathodyn glas ym Mhen y Pass ac yn gweithredu ar sail cyntaf i’r felin.

Os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, bydd pob taith yn cael ei gweithredu gan fysiau llawr isel gyda lle i gadeiriau olwyn.

Os ydych chi’n bwriadu parcio bws mini (rhwng 5 ac 8 metr o hyd) ym Mhen y Pass, rhaid i chi archebu lle ymlaen llaw ar wefan JustPark. 

Ar ôl archebu, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gadarnhau eich lle parcio. Wrth wneud hynny, nodwch hyd eich cerbyd, rhif cadarnhau’r archeb gan JustPark, rhif adnabod eich cerbyd a’r dyddiad ymweld.

Gallwch gysylltu gyda Dewi Jones, ein Rheolwr Meysydd Parcio drwy:

  • E-bostio: Dewi.Jones@eryri.llyw.cymru neu drwy
  • Ffonio: 01766770274

Nid oes unrhyw leoedd beiciau modur wedi’u neilltuo.

Yn ogystal, ni fydd beicwyr modur yn cael rhannu lle parcio. Mae pob lle parcio ar gyfer un cerbyd yn unig.

Bydd y maes parcio yn parhau yn defnyddio system rhagarchebu tan 1 Tachwedd 2026.

Mae rhagor o fanylion am drefniadau parciau i westeion Hostel YHA Pen y Pass ar gael ar wefan yr hostel.

Gwefan Hostel YHA Pen y Pass (gwefan Saesneg yn unig)

Dydd Llun i Ddydd Sul

Yr isafswm pris yw £25 am sesiwn parcio 8 awr.

Hyd at 8 awr: £25.00
8 – 12 awr: £35.00
Diwrnod llawn: £45.00

Archebwch le ar wefan JustPark

Mae parcio ym Mhen y Pass yn gyfyngedig iawn, felly nid yw estyniadau i archebion presennol yn bosibl.

Sylwer: hyd uchaf cerbyd ar gyfer lle parcio arferol yw 5 medr. Gellir darparu lle parcio ar gyfer cerbydau rhwng 5-8 medr drwy drefniant arbennig drwy gysylltu’n uniongyrchol â Pharc Cenedlaethol Eryri. Os ydych yn bwriadu parcio cerbyd rhwng 5-8 medr ym Mhen y Pass, bydd rhaid rhagarchebu lle ar wefan JustPark.

Os yw eich cerbyd dros 8 medr ni fydd yn ffitio yn y maes parcio hwn ac rydym yn eich cynghori i edrych ar y nifer o opsiynau eraill sydd ar gael yn yr ardal yma.

Archebwch le ar wefan JustPark

Cyrraedd Yr Wyddfa

Ar ôl archebu, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gadarnhau eich lle parcio. Wrth wneud hyn, nodwch hyd eich cerbyd, rhif cadarnhau’r archeb gan JustPark, rhif adnabod eich cerbyd a’r dyddiad ymweld.

Gallwch gysylltu drwy:

  • E-bostio: Dewi.Jones@eryri.llyw.cymru neu drwy
  • Ffonio: 01766770274