Gall ardaloedd poblogaidd fel Yr Wyddfa fod yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf rhwng Ebrill a Medi. Gall defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa gyfrannu at deithio cynaliadwy yn ystod y cyfnod prysuraf hwn.
Mae’r gwasanaeth yn teithio o amgylch gwaelod yr Wyddfa gan aros mewn sawl lleoliad – pob un dafliad carreg o’r llwybrau i’r copa.
Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd unrhyw un o’r arosfannau bysiau yn Llanberis. Gallwch ymuno â Llwybr Llanberis o’r pentref.
O Betws y Coed i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S1
O Gaernarfon i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S1
O Fangor i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S2
Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Pen y Pass. Gallwch ymuno gyda Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr o Ben y Pass.
O Betws y Coed i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S1
O Gaernarfon i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S1
O Fangor i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S2
O Llanberis i Pen y Pass
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth S1, S2 neu S5
O Nant Peris i Pen y Pass
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth S1, S2 neu S5
O Borthmadog i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S4
Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Cwellyn Snowdon Ranger YHA. Gallwch ymuno gyda Llwybr Cwellyn o’r arhosfan yma.
O Gaernarfon
Defnyddiwch y gwasanaeth S3
Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Rhyd Ddu. Gallwch ymuno gyda Llwybr Rhyd Ddu o’r arhosfan yma.
O Gaernarfon
Defnyddiwch y gwasanaeth S3
Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Pont Bethania. Gallwch ymuno gyda Llwybr Watkin o’r arhosfan yma.
O Borthmadog
Defnyddiwch y gwasanaeth S4
Cynllunio eich taith
Am amserlenni’r gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa, ewch i wefan Cyngor Gwynedd neu defnyddiwch wefan Traveline Cymru.