Un o’r llwybrau cynharaf i gopa’r Wyddfa
Credir mai Llwybr Cwellyn yw’r cynharaf o’r chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa.
Mae’r llwybr yn cychwyn ar lannau Llyn Cwellyn. Mae’n dringo’n raddol i lethrau Moel Cynghorion a throsodd i Fwlch Cwm Brwynog cyn esgyn yn serth uwchben Clogwyn Du’r Arddu ac uno â Llwybr Llanberis i’r copa.
Pam y llwybr hwn?
Mae cyrraedd copa’r Wyddfa yn dasg heriol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi categori ar holl lwybrau i fyny’r Wyddfa fel llwybrau anodd a llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd, ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.
Mae Llwybr Cwellyn yr Wyddfa yn un o ddau lwybr sy’n dringo llethrau gorllewinol massif Yr Wyddfa. Gall fod yn ddewis arall i gerddwyr profiadol ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o rannau llai eu golwg o’r ardal.
Adroddiadau Amodau Dan Draed
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.
Dechrau/Diwedd
Maes Parcio Llyn Cwellyn, oddi ar yr A4085 (SH 564 551)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Sherpa’r Wyddfa
Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth cyfleus sy’n teithio rhwng pob un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa.
Mae cysylltiadau gwych i Lwybr Cwellyn o Gaernarfon a Phorthmadog.
Arhosfan bws Llwybr Cwellyn
Snowdon Ranger YHA
Am wybodaeth pellach ar sut i gyrraedd llwybrau’r Wyddfa, darllenwch ganllaw cynhwysfawr Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ymwelwch â gwefan Sherpa’r Wyddfa.
Parcio
Maes Parcio Llyn Cwellyn
Maes Parcio Llyn Cwellyn ar Google Maps
Os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa:
Maes Parcio Caernarfon ar Google Maps
Maes Parcio Porthmadog ar Google Maps
Mae adroddiadau amodau dan draed Yr Wyddfa nawr ar gael ar wefan Yr Wyddfa Fyw
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w ddringo. Ni ddylid mentro i’r copa ar hap. Gall ffactorau fel y tymhorau, lefel eich ffitrwydd, eich sgiliau mynydda, eich paratoadau ymlaen llaw, a phoblogrwydd y mynydd i gyd effeithio ar eich profiad o’r Wyddfa.
Mae teithiau cerdded a digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau amrywiol. Fodd bynnag, dylech bob amser gymryd gofal wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath. Nid yw dringo’r Wyddfa yn dasg hawdd.
Enw’r Llwybr
Llwybr Cwellyn yw’r unig lwybr i gopa’r Wyddfa gydag enwau hollol wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n debyg bod ei henw Cymraeg, Llwybr Cwellyn, wedi’i enwi ar ôl man cychwyn y llwybr ar lannau Llyn Cwellyn.
Fodd bynnag, tywysydd mynydd o’r enw John Morton oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i enw Saesneg y llwybr. Roedd Morton, a alwai ei hun yn ‘Snowdon Ranger’, wedi adeiladu tafarn ar lannau Llyn Cwellyn yn ystod y 19eg ganrif, lle byddai’n cychwyn ar deithiau tywys i gopa’r Wyddfa. Heddiw, mae’r dafarn yn gweithredu fel hostel ieuenctid a gellir ei gweld gyferbyn â maes parcio Llyn Cwellyn.
Mytholeg a llên gwerin
Bydd y llwybr yn cynnig golygfeydd gwych i lawr tuag at Lyn Cwellyn, lle mae llethrau Mynydd Mawr yn esgyn yn osgeiddig o lan orllewinol y llyn.
Mae coedwig goniffer yn ffurfio llethrau isaf Mynydd Mawr. Fodd bynnag, ar y dde, tuag at ben draw’r llyn, efallai y sylwch ar graig amlwg lle daw’r goedwig i ben. Gelwir y graig yn Gastell Cidwm. Yn ôl y chwedl, dyma oedd cartref Cidwm—cawr oedd yn byw mewn ogof o fewn y graig.
Wrth i chi nesau at Bwlch Cwm Brwynog, fe ddaw llyn i’r golwg ar y dde i chi o’r enw Llyn Ffynnon y Gwas. Trosglwyddir yr enw i ‘lyn ffynnon y gwas’, a chredir iddo gael ei enwi ar ôl bugail a foddodd yn ei ddyfroedd wrth olchi defaid ei feistr. Mae olion hen gorlan garreg i’w gweld ar ben gogleddol y llyn – prawf efallai bod gwirionedd y tu ôl i’r stori.