Mae’r adroddiad yma yn cael ei gyflawni yn rheolaidd trwy fisoedd y gaeaf gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn rhoi gwybodaeth arwyddol o’r amodau rhew/eira dan draed yn ardal Yr Wyddfa.
Cofiwch, mae mynydda yn weithgaredd sydd â pheryglon cynhenid. Pan fyddwch allan yn y mynyddoedd dylech fod yn ymwybodol o, a derbyn y peryglon hyn gan gymryd cyfrifoldeb am eich penderfyniadau eich hunan, paratoi’n drylwyr a mwynhau’r antur!
Efallai bod angen cyfarpar ychwanegol pan yn cerdded yr ucheldiroedd yn y gaeaf ac mae’n bwysig eich bod yn paratoi yn drwyadl er mwyn cerdded y mynyddoedd yn saff.
Adroddiad Diweddaraf
Manylion
Dyddiad – Dydd Mawrth yr 28ain o Fawrth 2023
Amser – Ar y copa tua 0800
Eira uwchben – Haen denau iawn o eira yn dadmer uwchben tua 950m
Llwybr a Gymerwyd – Llwybr y pyg
Amodau
Roedd rhywfaint o eira i’w weld ar y llwybr o tua 950m bore heddiw, oedd yn gwneud y llwybr fymryn yn fwy llithrig na’r arfer, ond roedd yn dadmer adeg yr arsylwadau, ac yn debygol o ddadmer ymhellach yn ystod y dydd (gweler ‘Gwybodaeth Ychwanegol isod).
Diwrnod gwyntog iawn a chymylog, gyda niwl, a chawodydd o law, eira ac eirlaw.
Offer Hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol arferol, yn cynnwys goleuadau.
Er ei bod dal yn ddigon oer ac angen digon o ddillad, offer a lluniaeth i gadw’n gynnes, gyda’r rhagolygon yn gaddo gwynt, glaw a thymheredd uwchben y rhewbwynt dros y dyddiau nesaf, mae’n annhebygol y bydd eira a rhew yn datblygu fel bod angen offer mynydda gaeaf technegol cyn yr adroddiad nesaf ar ddydd Gwener.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd yr adroddiad, mae’r rhagolygon yn awgrymu y gall y tymheredd fod yn agos i’r rhewbwynt ar adegau ar y copa, ond ddim yn rhewi am y cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf. Mae darogan am gyfnodau o wynt cryf a glaw sylweddol ar adegau.
Golyga hyn bod rhew neu eira yn anhebygol (ond byddai tymheredd ychydig yn is nos Iau yn gallu ymylu ar fod yn aeafol), ond y gall dal deimlo yn ddigon oer (mae teimlad fel cyn ised â -4°C yn cael ei grybwyll yn y rhagolygon), bydd gwelededd yn wael ar adegau, a bydd cyfnodau gwyntog iawn a gwlyb.
Machlud haul tua 2000, ac yn dywyll cyn 2030.












































