Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Os ydych chi’n un o’r miloedd lawer sy’n ystyried dringo’r Wyddfa, efallai eich bod yn pendroni pa lwybr sydd orau i’w ddringo i’r copa. Mae dewis y llwybr cywir i gopa’r Wyddfa yn hanfodol.

Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Cymru. Mae dros 600,000 o bobl yn cyrraedd y copa bob blwyddyn. Yn ystod misoedd yr haf, gall y copa fod yn hynod o brysur rhwng y rhai sy’n cyrraedd ar droed a’r rhai sy’n cyrraedd ar drên.

Dewis llwybr addas

Mae chwe llwybr i gopa’r Wyddfa, pob un â’i nodweddion a’i heriau unigryw. Bydd dewis y llwybr cywir yn dibynnu’n bennaf ar eich lefel ffitrwydd neu, yn bwysicach fyth, lefel ffitrwydd eich grŵp.

Mae dringo unrhyw lwybr i’r copa yn gamp heriol—os oes gennych unrhyw amheuaeth na fyddwch yn gallu cwblhau’r llwybr, ni ddylech roi cynnig arni yn y lle cyntaf. Un ffordd o ddod yn gyfarwydd â’ch lefelau ffitrwydd yw rhoi cynnig ar lwybrau mynyddig eraill sy’n llai heriol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hyrwyddo nifer o deithiau cerdded mynyddig sydd wedi’u graddio’n gymedrol.

Llwybrau Mynyddig Cymedrol

Cyn i chi gychwyn

Mae pob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybrau heriol
Mae’r Wyddfa yn fynydd heriol i’w ddringo. Dylech fod yn hyderus iawn yn eich sgiliau mynydda cyn mentro ar unrhyw un o’r llwybrau i’r copa. Efallai y byddwch yn dod o hyd i rai llwybrau a ddisgrifir fel llwybrau ‘haws’ i’r copa. Fodd bynnag, ni ddylech o bell ffordd ystyried y llwybrau hyn yn ‘hawdd’. Mae pob llwybr i gopa’r Wyddfa yn lwybrau heriol.

Dylech hefyd sicrhau eich bod wedi ymgyfarwyddo â’r holl wybodaeth angenrheidiol ar dudalen Dringo’r Wyddfa Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan gynnwys gwybodaeth beth i’w ddisgwyl, sut i baratoi ar gyfer eich taith a’r ffyrdd gorau a mwyaf effeithlon o gyrraedd eich llwybr.

Dringo’r Wyddfa

Am ragor o wybodaeth ar gyrraedd Yr Wyddfa, gallwch ddarllen canllaw Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Cyrraedd Yr Wyddfa

Walkers on the Llanberis Path, Yr Wyddfa.

Llwybr Llanberis

ANODD/LLAFURUS

Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol
Gwych ar gyfer dringwyr tro-cyntaf sy’n gyfforddus â llwybrau mynyddig heriol
Yn gallu mynd yn brysur iawn yn ystod y gwanwyn a’r haf

Llwybr Llanberis yw’r llwybr mwyaf poblogaidd i gopa’r Wyddfa. Mae’n daith heriol 9 milltir gydag esgyniad o dros 3,000 troedfedd. Er mai Llwybr Llanberis sydd â’r esgyniad mwyaf graddol i’r copa, ni ddylid ei ystyried yn lwybr ‘hawdd’ o bell ffordd.

Mae’r llwybr yn cychwyn ym mhentref Llanberis sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych. Mae gwneud defnydd o wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa i gyrraedd Llanberis nid yn unig yn gyflym ac yn effeithlon, ond bydd hefyd yn lleihau effaith tagfeydd mewn cymunedau lleol yn ystod tymhorau prysur y gwanwyn a’r haf.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn graddio Llwybr Llanberis ynghyd â’r holl lwybrau i gopa’r Wyddfa fel llwybrau Anodd/Llafurus. Dim ond ar gyfer cerddwyr mynydd profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd a gwybodaeth drylwyr o sgiliau mynydda a mordwyo y mae’r llwybrau hyn yn addas.

Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

View of Snowdon's summit with the Snowdon Ranger path acsending up towards it

Llwybr Rhyd Ddu a Llwybr Cwellyn

ANODD/LLAFURUS

Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych
Addas i ddringwyr sydd yn gyfforddus â llwybrau mynyddig heriol 
Parcio cyfyngedig felly argymhellir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Mae Llwybrau Rhyd Ddu a Cwellyn yn dringo llethrau gorllewinol Yr Wyddfa. Mae llwybr Rhyd Ddu yn cychwyn o bentref Rhyd Ddu ac mae’r Cwellyn yn cychwyn ar lannau Llyn Cwellyn, tua milltir a hanner o Ryd Ddu.

Disgrifir y llwybrau’n aml fel llwybrau ‘tawelach’, ond gallant fod yn brysur yn ystod yr haf. Mae’r ddau lwybr yn ddringfeydd heriol i gopa’r Wyddfa a dylech fod yn gyfforddus â llwybrau mynyddig heriol cyn cychwyn ar eich dringfa.

Dylech bob amser ystyried effaith eich ymweliad ar gymunedau lleol yn yr ardal. Pentref bychan yw Rhyd Ddu ac mae gan faes parcio Llwybr Rhyd Ddu 60 o leoedd sy’n gallu llenwi’n hawdd erbyn 8:00am yn ystod misoedd prysur y gwanwyn a’r haf. Mae gan faes parcio Llwybr Cwellyn hyd yn oed llai o leoedd. Mae defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn ffordd gwych o gyrraedd y ddau lwybr.

Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa
Llwybr Cwellyn, Yr Wyddfa

View of Pyg and Miners' track ascending past the southern lakes of Snowdon

Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg

ANODD/LLAFURUS

Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol
Esgyniadau creigiog heriol ar Drac y Mwynwyr a Llwybr Pyg
Gall ardal Pen y Pass fod yn hynod o brysur, argymhellir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Mae maes parcio Pen y Pass yn awr yn gweithredu ar sail talu ac arddangos

Tra bod Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg yn fyrrach o ran pellter mae ganddynt esgyniadau llawer mwy serth i’r copa. Dylech fod yn gyfforddus yn dringo dringfeydd serth, creigiog cyn dewis unrhyw un o’r ddau lwybr yma.

Mae’r llwybrau’n lwybrau poblogaidd i gopa’r Wyddfa yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mae’r ddau lwybr yn cychwyn ym Mhen y Pass all fod yn ardal brysur iawn yn ystod y tymor brig. Mae cynllunio sut i gyrraedd Pen y Pass yn hanfodol os ydych yn dringo Llwybr y Mwynwyr neu Lwybr Pyg.

Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yw’r ffordd gorau o gyrraedd Pen y Pass. Gallwch barcio yn Nant Peris, Llanberis neu hyd yn oed Bangor a Chaernarfon a gwneud defnydd o’r gwasanaeth uniongyrchol i Ben y Pass.

Gwybodaeth bwysig am Lwybr Pyg
Dylech fod yn ofalus iawn wrth gerdded Llwybr Pyg, gan y gall rhannau o’r llwybr eich arwain tuag at Grib Goch. Mae’r gefnen ymyl-cyllell 400m hon yn ddringfa hynod beryglus a thechnegol. Mae’n hollbwysig eich bod yn hyderus yn eich sgiliau mordwyo wrth ddringo Llwybr Pyg.

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa
Llwybr y Pyg, Yr Wyddfa
Gwybodaeth am faes parcio Pen y Pass

The Watkin path leads up along a river

Llwybr Watkin

ANODD/LLAFURUS

Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da
Llwybr hynod heriol i’w ddringo
Lleoedd parcio hynod gyfyngedig, mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol

Mae Llwybr Watkin yn lwybr hynod heriol i gopa’r Wyddfa. Mae’n un o’r llwybrau hiraf gyda’r esgyniad mwyaf. Dylai dringwyr sy’n dringo i’r copa am y tro cyntaf ystyried dewis llwybr arall cyn mentro Llwybr Watkin.

Mae parcio ar gyfer Llwybr Watkin yn gyfyngedig iawn. Yn ystod tymhorau prysur y gwanwyn a’r haf, gall y maes parcio fod yn llawn erbyn 7:30am. Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gyrraedd y llwybr. Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn ffordd gyflym ac effeithlon o gyrraedd llwybr Watkin.

Llwybr Watkin, Yr Wyddfa