Darganfyddwch hanes yr iaith Gymraeg yng nghwmni M R. Ben Igwr.
Mae e'n Swyddog Ystadegau i Lywodraeth Cymru, ac yn dipyn o 'genius'! Mae ei Bennaeth yn y Llywodraeth yn gosod tasg iddo - sicrhau y bydd miliwn o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Wrth iddo ddechrau cyfri'r gynulleidfa, mae'n sylweddoli y bydd hon yn dasg anodd dros ben, ac mae'n penderfynu chwilio am ysbrydoliaeth trwy ymchwilio i hanes yr iaith Gymraeg. Mae'n cyflwyno 10 cam pwysig yn hanes yr iaith - o'r Ddeddf Uno, i gyfieithu'r Beibl, Brad y Llyfrau Gleision i'r Welsh Not.
Wrth i'r sioe fynd yn ei blaen, mae Mr Igwr yn codi'i galon wrth gyflwyno hanes sefydlu'r Urdd ac ysgolion Cymraeg. Ar ddiwedd y sioe, yn llawn gobaith, mae'n annog y gynulleidfa i siarad Cymraeg, gan taw NHW fydd yn cyfri yn 2050.
Addas ar gyfer plant rhwng 5 a 12 oed.
Pryd: 31/05/2024
Amser: 13:30yp - 14:30yp
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Sioe Mewn Cymeriad: Taith yr Iaith
Darganfyddwch hanes yr iaith Gymraeg yng nghwmni M R. Ben Igwr.