Cylchdaith yw hwn ar stad Nannau sydd ar gyrion Dolgellau. Gyda chydweithrediad y tirfeddianwr, mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid wedi ail agor cylchdaith  sy’n cynnig golygfeydd godidog o dde Meirionnydd, a gallwch ddringo i’r copa os am weld ymhellach.

Pam y llwybr hwn?

Mae’r llwybr yn cynnig digonedd o olygfannau er mwyn gweld rhai o fynyddoedd mwyaf trawiadol Eryri. I’r gogledd saif Yr Wyddfa a’r Moelwynion ac i’r gorllewin saif y Rhinogydd. Mae Cader Idris, yr Aran a’r Arenig i’w gweld tua’r de a’r dwyrain.

Yn addas ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd.  Llwybr caled at olygfan y de, fel arall llwybr naturiol, anwastad mewn mannau, heb raddiannau serth. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Saithgroesffordd , Llanfachreth (SH 746 212)

Mae hefyd doiledau cyhoeddus yn y maes parcio hwn. Gwiriwch i weld pryd y maent ar agor.

Toiledau cyhoeddus a chyfleusterau

Lawrlwytho PDF o’r daith

Maes parcio Saithgroesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)

Os ydych chi’n gyrru, parciwch mewn mannau parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn ardaloedd lle rydych chi’n rhwystro mynedfeydd i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Gweld ar ba 3 gair
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch ni i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch

Cod Cefn Gwlad

Abaty Cymer

Dafliad carreg o Lyn Cynwch, ger cymuned Llanelltyd, saif Abaty Cymer—abaty Sistersaidd a sefydlwyd ym 1198. Mae gan yr abaty gysylltiadau cryf â Thywysogion Cymru. Credir iddo gael ei sefydlu dan nawdd dau frawd, Gruffudd a Maredudd ap Cynan, wyrion Owain Gwynedd.

Abaty Cymer

Stad Nannau

Ar yr ochr ddeheuol i Lyn Cynwch mae plasty stad Nannau.

Mae gan Nannau hanes hynod ddiddorol o gymeriadau eiconig Cymreig. Adeiladwyd y tŷ presennol, sydd bron i 750 troedfedd uwch lefel y môr, yn 1796 ac roedd yn gartref i’r teulu Vaughan, a oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o dir yr ardal. Mae’n dŷ carreg trillawr o ddiwedd y 18fed ganrif a godwyd gyda blociau nadd o garreg lwyd tywyll leol. Nannau oedd y plas olaf i ymarfer yr hen draddodiad o noddi beirdd a thelynorion.