Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant  i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol. Darperir yr hyfforddiant yma gan Ganolfan Tywi. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys 2 sesiwn:

Sesiwn 1 - Cynnal a chadw ac atgyweirio hen adeiladau

Er mwyn i hen adeilad fod yn ynni-effeithlon, mae angen iddo fod mewn cyflwr da. Bydd rhan gyntaf y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall sut mae hen adeiladau’n gweithio a rhai o’r materion atgyweirio a chynnal a chadw mwy cyffredin i edrych amdanynt. Bydd y cwrs yn rhoi y wybodaeth  sylfaenol i chi am sut i ofalu am hen adeiladau, cyfyngu ar gostau atgyweirio hirdymor, a sut a phryd i fynd am gyngor mwy arbenigol.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Defnyddiau a dulliau a ddefnyddir mewn adeiladau hŷn
  • Ystyriaethau wrth wneud gwaith atgyweirio
  •  Cynllunio a chyflawni prosiectau
  •  Rhestrau gwirio cynnal a chadw
  • Astudiaethau achos

Sesiwn 2: Effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau hyn

Bydd yr hyfforddiant yn rhoi mewnwelediad i fynychwyr i fesurau cost-effeithiol sydd wedi'u cynllunio i leihau biliau ynni a lleihau effaith amgylcheddol. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn ymchwilio i berfformiad thermol adeiladau traddodiadol a pha ffactorau all effeithio ar hyn. Byddwn yn trafod y newidiadau syml y gellir eu gwneud yn gyflym ac yn hawdd, yn ogystal â'r ymyriadau mwy mawr megis inswleiddio waliau. Bydd manteision ac anfanteision opsiynau yn cael eu trafod, ynghyd â chyfreithiau a rheoliadau a allai effeithio ar y dewisiadau y mae perchnogion a gwarcheidwaid yn eu gwneud.

Bydd y cwrs yn helpu mynychwyr i gael yr hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am ôl-effaith nodweddion pensaernïol unigryw adeiladau hanesyddol.

Cynhelir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg.

Dyddiad: 12 Medi 2024

Amser: 9:30yb- 4:30yh

Llefydd ar gael: 15

Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW

Archebu: I archebu lle ar y cwrs anfonwch ebost at:  naomi.jones@eryri.llyw.cymru

Cynhelir yr hyfforddiant drwy gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.

Cyflwyniad i Gynnal, Atgyweirio ac Effeithlonrwydd mewn Adeiladau Traddodiadol

Free

Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant  i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol

Category: