Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol. Darperir yr hyfforddiant yma gan Ganolfan Tywi. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys 2 sesiwn:
Sesiwn 1 - Cynnal a chadw ac atgyweirio hen adeiladau
Er mwyn i hen adeilad fod yn ynni-effeithlon, mae angen iddo fod mewn cyflwr da. Bydd rhan gyntaf y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall sut mae hen adeiladau’n gweithio a rhai o’r materion atgyweirio a chynnal a chadw mwy cyffredin i edrych amdanynt. Bydd y cwrs yn rhoi y wybodaeth sylfaenol i chi am sut i ofalu am hen adeiladau, cyfyngu ar gostau atgyweirio hirdymor, a sut a phryd i fynd am gyngor mwy arbenigol.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Defnyddiau a dulliau a ddefnyddir mewn adeiladau hŷn
- Ystyriaethau wrth wneud gwaith atgyweirio
- Cynllunio a chyflawni prosiectau
- Rhestrau gwirio cynnal a chadw
- Astudiaethau achos
Sesiwn 2: Effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau hŷn
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi mewnwelediad i fynychwyr i fesurau cost-effeithiol sydd wedi'u cynllunio i leihau biliau ynni a lleihau effaith amgylcheddol. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn ymchwilio i berfformiad thermol adeiladau traddodiadol a pha ffactorau all effeithio ar hyn. Byddwn yn trafod y newidiadau syml y gellir eu gwneud yn gyflym ac yn hawdd, yn ogystal â'r ymyriadau mwy mawr megis inswleiddio waliau. Bydd manteision ac anfanteision opsiynau yn cael eu trafod, ynghyd â chyfreithiau a rheoliadau a allai effeithio ar y dewisiadau y mae perchnogion a gwarcheidwaid yn eu gwneud.
Bydd y cwrs yn helpu mynychwyr i gael yr hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am ôl-effaith nodweddion pensaernïol unigryw adeiladau hanesyddol.
Cynhelir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg.
Dyddiad: 12 Medi 2024
Amser: 9:30yb- 4:30yh
Llefydd ar gael: 15
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW
Archebu: I archebu lle ar y cwrs anfonwch e-bost at: naomi.jones@eryri.llyw.cymru
Cynhelir yr hyfforddiant drwy gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.
Cyflwyniad i Gynnal, Atgyweirio ac Effeithlonrwydd mewn Adeiladau Traddodiadol
Free
Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol