Gellir cyrraedd Crib Goch a Chrib y Ddysgl oddi ar Lwybr Pyg , sy’n cychwyn ym Mhen y Pass. I’w cyrraedd, trowch tua’r gorllewin ym Mwlch y Moch.

NID yw hwn yn brif lwybr i gopa’r Wyddfa, a dim ond os ydych yn anelu’n benodol at gyrraedd Crib Goch a Chrib y Ddysgl y dylid ei ddilyn. Os ydych yn bwriadu cyrraedd copa’r Wyddfa ac osgoi’r ddau gopa, parhewch ar hyd Llwybr Pyg sydd wedi’i ddiffinio’n glir yn mynd tua chyfeiriad y de-orllewin.

Argymhellir eich bod yn dynesu at Grib Goch a Chrib y Ddysgl o’r dwyrain i’r gorllewin oherwydd natur y ddringfa a dyma’r trywydd naturiol y mae’r rhan fwyaf o ddringwyr yn ei ddewis.

 

Cyngor Diogelwch

Sgrialu Gradd 1 yw dulliau dringo Crib Goch a Chrib y Ddysgl ac mae hynny’n cynnwys elfennau o ddringo creigiau, sy’n golygu bod angen defnyddio’r dwylo a’r traed ar yr un pryd. Mae dilyn trywydd y llwybr hwn yn golygu y byddwch yn ymrafael â thir hynod o heriol mewn amgylchedd sy’n agored iawn i bob math o dywydd, ac mae’n cynnwys pinaclau a llethrau serth iawn ar y ddwy ochr. Yn aml iawn, mae natur berygl y math hwn o sgrialu yn golygu bod dringwyr yn gallu ‘rhewi’n ddirybudd yn eu hunfan’, sy’n golygu eu bod yn mynd yn sownd yn y fan a’r lle, am eu bod yn methu’n glir â mynd i fyny nac i lawr.

Nid yw’r math hwn o sgrialu yn addas o gwbl ar gyfer cerddwyr dibrofiad nac ychwaith mewn tywydd gwlyb a gwyntog. Yn anffodus, mae damweiniau yn beth cyffredin yn y fan hon ac mae nifer fawr o unigolion angen cymorth gan y Tîm Achub Mynydd, ac mae marwolaethau trychinebus wedi digwydd yma. Am resymau diogelwch, ni ddylid byth mynd â chŵn ar y llwybr hwn, o dan unrhyw amgylchiadau.

Cyn i chi esgyn – Gofynnwch 3 chwestiwn i’ch hunan cyn i chi gychwyn:

1 – Ydw i’n hyderus fod gen i’r WYBODAETH A’R SGILIAU ar gyfer y diwrnod?
2 – Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?
3 – Oes gen i’r OFFER cywir?

Os ydych yn ansicr o’ch gallu neu’r tywydd, yna dylech o ddifri ailystyried eich opsiynau a cheisio cyngor/cymorth proffesiynol.