Gyda phenwythnos y Pasg yn agosáu a’r tymor ymwelwyr yn prysuro mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i bartneriaid yn annog pawb sy’n bwriadu ymweld â’r Wyddfa i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw gan ystyried eu diogelwch ac i barchu cymunedau ac amgylchedd Eryri.
Fel un o gopaon mwyaf poblogaidd Prydain, mae disgwyl i filoedd o bobl ymweld â’r Wyddfa dros wyliau’r Pasg. Tra mae’n gyfnod gwych i fwynhau’r awyr agored, mae’r cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn rhoi pwysau aruthrol ar isadeiledd lleol ac ar dîm achub mynydd Llanberis, sydd yn barod yn profi’r nifer uchaf o alwadau ar gofnod.
Mentrwch yn Gall – Gwnewch Benderfyniadau Synhwyrol yn y Mynyddoedd
Rydym yn annog ymwelwyr i ddilyn canllawiau Mentra’n Gall trwy ofyn y 3 cwestiwn syml ond effeithiol yma i’w hunain:
- Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
- Ydw i’n gwybod beth fydd amodau’r tywydd?
- Oes gen i’r offer cywir?
Gallwch ganfod y wybodaeth briodol ar wefan Mentra’n Gall.
Rhagarchebu Llefydd Parcio
Mae meysydd parcio o amgylch Yr Wyddfa’n llenwi’n gyflym mewn mannau ble mae’r prif lwybrau’n cychwyn megis Pen y Pass, Llanberis a Nant Gwynant. Dylai ymwelwyr gysidro os fydd llefydd parcio ar gael ar y diwrnod, ac bydd hi’n angenrheidiol rhagarchebu lle os yn dewis parcio yn Mhen y Pass yn benodol.
Mae gwybodaeth am feysydd parcio ar gael ar wefan y Parc Cenedlaethol. Ni ddylai ymwelwyr barcio yn anghyfreithiol nag yn anghyfrifol gan y gallai hyn achosi anhawsterau i wasanaethau brys, tirfeddianwyr a thrigolion.
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn paratoi am eu blwyddyn brysuraf eto, gyda dros 60 o alwadau hyd yn hyn eleni.
Dywedodd Gruff Owen, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis:
“Mae’r Pasg wedi profi i fod yn gyfnod heriol i’n tîm o wirfoddolwyr yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni orfod ateb sawl galwad o faterion difrifol ar yr un pryd.
Dros gyfnodau’r gwyliau mae’n rhaid i gerddwyr a dringwyr fod yn ymwybodol y gallwn fod wedi ein hymrwymo i ddigwyddiadau eraill ar y mynydd a bod rhaid i bobl aros yn hirach na’r arfer i gael eu hachub.
Gall nifer o’r digwyddiadau hyn gael eu hosgoi gyda chynllunio gofalus. Er mwyn lleihau’r pwysau ar ein gwirfoddolwyr, rydym yn annog i holl ymwelwyr y mynyddoedd gymryd camau diogelwch cyn dechrau ar unrhyw daith. Gwiriwch amodau’r tywydd, gwnewch yn saff o’r llwybr yr ydych yn bwriadu cymryd a chario dillad ac offer addas ar gyfer y tirweddau a’r tywydd.
Cofiwch nad oes modd rhagweld amodau’r mynyddoedd. Gall y tywydd newid yn gyflym a gall y dirweddau heriol achosi anhawsterau i’r cerddwyr mwyaf profiadol. Rydym yn annog cerddwyr a mynyddwyr i adnabod eu ffiniau a throi yn ôl os yw’r amodau’n anffafriol.
Trwy gymryd y camau hyn, gallwn leihau’r galw am ddigwyddiadau all gael eu hatal a sicrhau bod eich amser yn y mynyddoedd yn ddiogel ac yn brofiad y gallwch ei fwynhau.”
Cefnogi Tîm Achub Mynydd Llanberis
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn wasanaeth gwirfoddol sydd wedi bod o dan bwysau aruthrol yn y blynyddoedd diweddar oherwydd digwyddiadau cynyddol y gallai fod wedi eu hosgoi ar Yr Wyddfa. Mae eu gwaith yn hanfodol ac maent yn achub bywydau yn aml, ond gall y cyhoedd gynorthwyo i leihau’r pwysau cynyddol ar y tîm trwy:
- Ddewis y daith bwrpasol yn ôl eich ffitrwydd neu brofiadau
- Fod yn synhwyrol am allu personol
- Droi nôl os yw’r amodau’n gwaethygu neu lefelau egni yn gostwng
Cynlluniwch Ymlaen Llaw
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a’r timau Achub Mynydd a phartneriaid eraill yn cydweithio i gadw ymwelwyr yn ddiogel ac i warchod yr amgylchedd. Ond, mae gan bawb rôl i’w chwarae.
Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Pawson o Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae Heddlu Gogledd Cymru, wedi ac yn parhau i weithio’n agos gyda’i bartneriaid – gan gynnwys ein timau achub mynydd gwirfoddol sydd o dan bwysau aruthrol eleni.
Mae gennym oll gyfrifoldeb personol os yr ydym yn teithio i gopa’r Wyddfa neu unrhyw fynydd arall yn Eryri. Mae angen i bobl gofio bod ein timau achub mynydd anhygoel yn wirfoddolwyr – sydd yn aml yn rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn achub eraill. Trwy gael ychydig mwy o wybodaeth a sgiliau, a gwneud mwy o ymchwil o flaen llaw, efallai na fyddai unigolion yn canfod eu hunain mewn trafferthion.
Os ydych yn bwriadu ymweld â’r Wyddfa neu ardaloedd cyfagos, gwnewch yn sicr eich bod yn cynllunio eich taith. Mae cynllunio ymlaen llaw yn hanfodol i sicrhau eich bod yn cael diwrnod gwerth chweil – mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb personol am eich dillad, gwirio amodau tywydd a sicrhau bod eich holl weithredoedd o fewn eich gallu.
Mae cynllunio eich trefniadau parcio hefyd yn bwysig gan nad ydym am weld parcio anghyfreithlon neu anghyfrifol fel yr ydym wedi’i brofi yn y blynyddoedd diweddar. Mae gennym gyfleusterau parcio a theithio anhygoel, gwnewch y gorau ohonynt. Os ydych yn canfod eich hunain mewn trafferthion neu argyfwng tra yn yr awyr agored, ffoniwch 999 gan ofyn am wasanaeth achub mynydd a mi fyddwch yn derbyn cymorth.
Rydym yn gwerthfawrogi bod Eryri yn un o’r ardaloedd harddaf y byd, a gyda’r tywydd da yr ydym wedi ei brofi dros y gwanwyn, rydym yn rhagweld y byddwn yn ofnadwy o brysur dros yr wythnosau nesaf. Rydym am i bawb fwynhau’r golygfeydd ac i adael gyda atgofion bythgofiadwy.”
Dilynwch y Côd Cefn Gwlad
Mae Eryri’n dirwedd ble mae pobl yn byw ac yn gweithio. Rydym yn annog pawb sy’n ymweld ag Eryri i gofio:
- Adael giatiau ac eiddo fel mae nhw’n cael eu canfod
- I fynd a’u sbwriel adref
- Cadw eu cŵn o dan reolaeth, yn enwedig o gwmpas da byw
- Aros ar lwybrau dynodedig, gwarchod bywyd gwyllt ac i osgoi erydiad
- Parchu cymunedau lleol a chyd-ymwelwyr
Dywedodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol:
“Mae Eryri yma i bawb ei fwynhau ond mae mwynhâd angen mynd law yn llaw a chyfrifoldeb. Mae cynllunio ymlaen llaw, parchu’r amgylchedd a gwneud penderfyniadau cyfrifol yn golygu bod yr ardal arbennig hon yn cael ei gwarchod.”