Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yng nghalon Eryri  mae grŵp o unigolion ymroddgar wedi bod yn gwirfoddoli’n ddi-flino er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein Parc Cenedlaethol. Mae cynllun gwirfoddoli Caru Eryri wedi bod yn amhrisiadwy yn cynorthwyo ymwelwyr a cadw ein llwybrau’n lân.

Wrth i ni ffarwelio a thymor ymwelwyr prysur arall gallwn adlewyrchu ar y gwaith anhygoel gan wirfoddolwyr Caru Eryri yn 2023. Eu bwriad yw cynnig croeso cynnes a darparu gwybodaeth ar lwybrau poblogaidd Yr Wyddfa ac ardaloedd eraill prysur yn Eryri.

Mae’r gwaith anhygoel yn rhan o ymdrech 153 o wirfoddolwyr angerddol sy’n rhoi eu amser hamdden i warchod Eryri. Dros y tymor maent wedi cyfrannu 1641 awr yn 2023 gan gasglu 479.5 o fagiau o sbwriel oedd yn pwyso 1,180.75kg. Mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn gymorth anhygoel i Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol a chefnogi’r gwaith o gynnal a chadw 28 km o lwybrau yn erbyn erydiad. Mae eu hymroddiad i gadw Eryri’n eithriadol i bawb ei fwynhau yn ysbrydoledig a rydym yn hynod ddiolchgar am eu gwaith.

Daeth y tymor glanhau sbwriel i ben i wirfoddolwyr Caru Eryri gyda digwyddiad ‘Gwir Her y 3 Copa’, Her llnau sbwriel wedi gydlynu ar 3 copa uchaf Cymru, Yr Alban a Lloegr. Dyma’r gasglwyd ar Yr Wyddfa:

Gwir Her y 3 Copa: Llwybrau’r Mwynwyr, PYG, Watkin a Llanberis.
Boteli Plastig a Gasglwyd: 489
Cyfanswm Pwysau’r Sbwriel: 101kg
38 Bag Mawr o Sbwriel

Mae’r ystadegau yma’n dangos dyhead y grŵp i fynd tu hwnt i’r galw yn eu hymderchion cadwraethol sy’n amlwg yn cael effaith gadarnhaol ar amgylchedd naturiol yr ardal hyfryd yma o’r byd.

Gyda’r tymhorau’n newid, rydym yn edrych ymlaen at y cyfnod nesaf o waith cadwraethol ssydd ar droed. Plannu coed yn rhai o ardaloedd hyfrytaf Cymru fydd y prif waith yn ogystal a chlirio eithin ar y Carneddau a llawer mwy. Da ni’n edrych ymlaen yn awchus at ailgroesawu gwirfoddolwyr Caru Eryri y tymor nesaf a gobeithio gweld ychydig o wynebau newydd hefyd!