Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Wrth i’r pandemig gyrraedd y nifer uchaf eto o heintiau ac amrywiaeth o’r feirws yn lledaenu mor gyflym mae Awdurdodau eisiau pwysleisio osgoi teithio yn ddiangen.

Unwaith eto yn dilyn nifer cynyddol o bobl yn anwybyddu canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru mewn cyfnod o gyfyngiadau symud (lefel rhybudd 4), mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cau ei holl feysydd parcio.

Mae’r penderfyniad wedi ei wneud er mwyn gwarchod ein cymunedau ac amddiffyn gwasanaethau iechyd Gogledd Cymru yn enwedig oherwydd bod yr amrywiad newydd y feirws yn lledaenu mor gyflym.

Rydym am atgyfnerthu’r neges bod rhaid dechrau a gorffen ymarfer corff o’ch cartref a bod angen osgoi unrhyw weithgareddau all roi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys.

Dywedodd Wyn Ellis Jones Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’n amser tyngedfennol yn nghyd destun pandemig y coronafeirws ac mae’n flaenoriaeth gennym ni warchod cymunedau Eryri.

Oherwydd y niferoedd uchel o bobl sydd wedi eu gweld yn anwybyddu rheoliadau cyfredol o gwmpas Eryri ers y Nadolig rydym wedi cymryd y camau brys hyn er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru yn eu neges bod angen osgoi teithio y ddiangen.

Rydym yn gobeithio bydd pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd ac yn dilyn canllawiau’r llywodraeth o’u gwirfodd.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru Nigel Harrison:

“Rydym yn deall fod pobl eisiau mynd allan i fwynhau’r mynyddoedd a’r eira. Fodd bynnag, mae hwn yn argyfwng cenedlaethol ac fe wnawn barhau i gydweithio hefo cydweithwyr o’r Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â rheolau teithio Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyfyngiadau yn bodoli er mwyn ein gwrachod ni gyd. Mae’n hanfodol fod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol drwy aros adref, oni bai fod ganddynt reswm penodol.

“Ni ddylai bobl feddwl am ffyrdd i osgoi’r gyfraith. Ni ddylai’r heddlu gael eu galw er mwyn amlygu synnwyr cyffredin.

“Ni wnawn eistedd yn ôl a gadael i bobl dorri’r rheolau yn ein cymunedau. Wrth gwrs fe wnawn barhau i ymrwymo ac esbonio’r gyfraith, ac annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol am ddiogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill. Fodd bynnag, os bydd pobl yn parhau i anwybyddu’r cyfyngiadau ac anwybyddu’r rheolau sy’n bodoli er lles iechyd pawb gan roi straen ar ein hadnoddau, mi wnawn weithredu.

“Nid yw’n dderbyniol dewis a dethol y cyfreithiau yr ydych am eu dilyn a’r rhai nad ydych am beidio eu dilyn. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r gyfraith erbyn hyn ac yn gwybod yn union yr hyn sy’n iawn i’w wneud. Nid ymarfer yw hyn ac mi wnaiff pobl farw o ganlyniad i weithrediadau rhai ohonom.

Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Adran Cynorthwyol – Amgylchedd, Cyngor Gwynedd:

“Er bod y ffigyrau diweddaraf ar gyfer Gwynedd yn is nag ardaloedd eraill o’r wlad, maent yn parhau i fod yn destun pryder ac rydym yn ymwybodol iawn y gallai achosion godi’n gyflym iawn.

“Gyda’r arbenigwyr iechyd yn nodi fod rhan helaeth achosion yn y gogledd yn amrywiolyn newydd, mae’n destun pryder gwirioneddol ac rydym yn annog trigolion i ddilyn y canllawiau syml er mwyn cadw eu hunain, eu hanwyliaid a’u cymunedau yn ddiogel.

“Fe wyddom fod yr amrywiolyn yn llawer haws ei ledaenu ac felly mae’n allweddol ein bod yn torri lawr ar gysylltiadau, agor ffenestri, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, cadw pellter cymdeithasol diogel a golchi dwylo.

“Mae hi mor bwysig ein bod yn dilyn y rheolau ac osgoi teithio di-angen ar hyn o bryd, a pheidio gyrru yn y car i lecynnau rhyfeddol Eryri am y tro. Drwy chwarae ein rhan, bydd pob un ohonom yn helpu yr ymdrech i atal lledaeniad yr haint fel y medrwn ddychwelyd at fywyd arferol mor fuan â phosib.”

Nodyn i Olygyddion

Mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru i’w gweld ar eu gwefan.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu – Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 / 07900 267506 neu e-bostiwch ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru