Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae gan ymwelwyr hostelau YHA (Youth Hostels Association) Eryri brofiad cyfoethocach fyth yn eu disgwyl, diolch i osod byrddau dehongli newydd yn YHA Pen y Pass, Llanberis, Rhyd-Ddu, Cwm Idwal, Conwy a Rowen. Wedi’i hariannu drwy Gronfa Cymunedau Eryri, mae’r byrddau yma yn cynnig cipolwg ar ddiwylliant, hanes, iaith, a bywyd gwyllt amrywiol yr ardal, gan gyfoethogi dealltwriaeth y rhai sy’n ymweld â’r ardal.

Mae’r byrddau’n darparu gwybodaeth werthfawr am y Gymraeg, gan gynnig cyfieithiadau o dermau allweddol y deuir ar eu traws yn gyffredin yn yr ardal. Mae’r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad i hybu amrywiaeth ieithyddol a meithrin gwerthfawrogiad o’r Gymraeg ymhlith ymwelwyr.

Yn ogystal â’i harwyddocâd diwylliannol, mae gan Eryri dirwedd amrywiol a gwyllt sy’n gyfoeth o fflora a ffawna unigryw. Mae’r byrddau dehongli yn amlygu pwysigrwydd ecolegol y Parc, gan arddangos y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n ei alw’n gartref.

Mae gosod y byrddau dehongli yma yn cyd-fynd â chenhadaeth yr YHA o ddarparu profiadau cyfoethog i deithwyr wrth gefnogi cymunedau lleol. Boed yn cychwyn ar daith gerdded i fyny un o fynyddoedd Eryri neu’n mwynhau’r golygfeydd godidog, gall ymwelwyr ag Eryri ddyfnhau eu gwerthfawrogiad o’r dirwedd hynod hon, diolch i’r byrddau dehongli newydd yn hosteli YHA ar draws y rhanbarth. Mae’r byrddau hyn yn dyst i ymdrechion cydweithredol Cronfa Cymunedau Eryri a’r YHA wrth hyrwyddo addysg, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a stiwardiaeth amgylcheddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.