Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

 ninnau ar drothwy gwyliau’r Sulgwyn a’r haf, bydd llawer o berchnogion eiddo yn ystyried ymgymryd â gwelliannau i’w cartrefi. Mae Awdurdod y Parc am atgoffa perchnogion adeiladau rhestredig bod angen derbyn Caniatâd Adeilad Rhestredig fel arfer cyn ymgymryd ag unrhyw waith oni bai am waith cynnal a chadw tebyg am debyg. Byddai ymgymryd ag unrhyw waith arall heb dderbyn caniatâd yn anghyfreithlon.

Un o rinweddau arbennig Eryri yw ei hamgylchedd hanesyddol; yr adeiladau hanesyddol sydd ar wasgar yng nghefn gwlad, neu mewn clystyrau gan ffurfio trefi a phentrefi sy’n nodweddiadol o’r Parc Cenedlaethol. Mae rhai o’r adeiladau hyn wedi eu gwarchod gan gyfraith fel adeiladau rhestredig oherwydd eu hoedran, nodweddion pensaernïol neu hanes cysylltiedig. Er mwyn osgoi unrhyw gosbau am waith diawdurdod, mae Awdurdod y Parc yn annog perchnogion adeiladau o’r fath i gysylltu gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i drafod ymlaen llaw.

Pan fydd adeilad wedi ei restru, mae hynny’n golygu’r adeilad cyfan (y tu mewn a’r tu allan). Mae’r warchodaeth yma’n ymestyn i strwythurau a gwrthrychau’r cwrtil sy’n sownd i’r adeilad rhestredig. Mae strwythurau’r cwrtil yn ategol neu’n isradd i’r adeilad rhestredig a gall gynnwys, er enghraifft, waliau terfyn ac adeiladau allanol. Gall yr Awdurdod gynghori os yw strwythur o fewn cwrtil adeilad rhestredig, ac os oes angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith ar strwythurau’r cwrtil.

Er mwyn diogelu’r adeiladau rhestredig hyn a’r holl hanes a diwylliant sydd yn gysylltiedig â hwy, mae Awdurdod y Parc wedi penodi Swyddog Cynllunio Amgylchedd Hanesyddol newydd er mwyn monitro cyflwr ein hadeiladau rhestredig, a chynghori perchnogion sydd am ymgymryd â gwelliannau. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd angen comisiynu pensaer arbenigol wrth ymgeisio am ganiatâd. Er y gost ddechreuol, bydd derbyn cyngor arbenigol yn arbed costau yn y tymor hir.

Meddai Eleanor Carpenter, Swyddog Cynllunio Amgylchedd Hanesyddol yr Awdurdod:

“Bydd llawer o bobl yn manteisio ar dymor yr haf i ymgymryd â gwelliannau i’w heiddo, felly cyn iddynt fwrw iddi rydym yn annog perchnogion adeiladau rhestredig i gysylltu â ni am gyngor gan fod addasiadau i adeilad rhestredig angen Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Rydym yn gwerthfawrogi bod rhai perchnogion eisiau gwneud addasiadau i’w heiddo rhestredig, fodd bynnag mae’n rhaid gwneud hynny mewn modd sensitif gan ddefnyddio’r technegau a’r deunyddiau cywir, a chyda’r caniatâd perthnasol wedi eu sicrhau ymlaen llaw. Rydym yn agored i drafod y posibiliadau efo nhw a’u helpu i gyrraedd canlyniad mor foddhaol â phosib i bawb. Yn anffodus, os bydd perchnogion yn penderfynu diystyru eu cyfrifoldebau cyfreithiol, fel mewn rhai achosion ar hyn o bryd, yna nid oes gennym ddewis ond cychwyn proses orfodaeth.”

Mae Awdurdod y Parc yn awyddus i godi ymwybyddiaeth perchnogion adeiladau rhestredig o’u cyfrifoldebau, ac i’r perwyl hwn mae cynlluniau ar y gweill i anfon llythyrau yn atgoffa perchnogion o’u cyfrifoldebau. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd wrthi’n paratoi Strategaeth Adeiladau Mewn Perygl er mwyn llywio’r broses o fynd i’r afael ag adeiladau sydd â’u cyflwr yn dirywio.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ar hyn o bryd mae yna 1866 adeilad rhestredig o fewn ffin y Parc Cenedlaethol.
  2. Mae’n drosedd ymgymryd ag unrhyw waith ar adeilad rhestredig fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol heb ganiatâd adeilad rhestredig priodol. Gall cosb gynnwys dirwy (dim uchafswm wedi ei nodi), carchar, neu’r ddau.
  3. Awdurdodau Cynllunio, mewn cydweithrediad agos â Cadw, sy’n gyfrifol am ganiatáu unrhyw addasiadau i adeiladau rhestredig trwy broses Caniatâd Adeilad Rhestredig.
  4. Gall Awdurdod y Parc Cenedlaethol gynghori ymgeiswyr ar benseiri posib , cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynllunio ar cynllunio@eryri.llyw.cymru
  5. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu – Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770274 / 07887452467