Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi lansiad Camera Banana! Fel rhan o Briosect Yr Wyddfa Ddi-Blastig, dyma fenter wedi ei anelu at godi ymwybdyddiaeth am ba mor hir mae sbwriel organig yn gymryd i bydru yn yr awyr agored mewn mannau ucheldirol.

Prif nôd yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am effeithiau amgylcheddol sbwriel organig a phwysleisio bod rhaid ei drîn fel sbwriel cyffredin gan hyrwyddo ymarferion rheoli gwastraff cyfrifol. Mae’r priosect yma wedi cael ei ddylanwadu gan yr arweinydd mynydd lleol Mike Raine sydd wedi bod yn cynnal arbrofion tebyg i hyn ar sbwriel organig yn awyr agored.

Camera sydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer copa’r Wyddfa yw Camera Banana er mwyn cofnodi taith bioddiraddio croen banana yn ei gyfanrwydd. Bwriad y fenter arbrofol yma yw dangos pa mor hir mae gwastraff organig yn cymryd i bydru pan yn agored i amodau ucheldirol unigryw Yr Wyddfa.

 

Dywedodd Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Ddi-Blastig;

“Mae sbwriel organig megis croen ffrwythau yn aml yn cael eu ystyried fel sbwriel sydd ddim yn achos niwedi i’r amgylchedd. Fodd bynnag mae’n bwysig cydnabod bod gwastraff organig yn sbwriel ac yn cael effaith negyddol ar ein amgylchedd naturiol a’n bywyd gwyllt. Mae Camera Banana yn codi ymwybyddiath o’r ffaith fod pob math o sbwriel yn gallu cael effaith hir-dymor ar ecosystemau ein tirweddau, yn ogystal a bod yn ddolur llygad.”

 

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnal cystadleuaeth i gyd-fynd â phrosiect Camera Banana. Mae cystadleuwyr yn cael eu hannog i amcangyfrif y dyddiad bydd y croen banana yn pydru’n gyfan gwbwl. Bydd yr enillydd lwcus sy’n amcangyfrif y dyddiad cywir yn ennill gwobr arbennig llawn o nwyddau eco-gyfeillgar fydd yn hwyluso ac yn annog lleihau’r defnydd o blastig untro a chefnogi byd cynaladwy.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn credu bydd y prosiect Camera Banana yn ysbrydoli ymwelwyr a thrigolion i ystyried y ffordd maen nhw’n cael gwared o’u sbwriel organig a hyrwyddo ymarferion amgylcheddol cyfrifol.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect Camera Banana ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i wefan y Camera Banana.

 

Nodyn i Olygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru