Croeso i’n taith trwy ardaloedd deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.
Dros y chwe mis nesaf, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni wrth i ni ddarganfod cyfoeth o hanes, diwylliant a harddwch naturiol sy’n diffinio’r rhanbarth hudolus hwn o’r Parc Cenedlaethol.
Ardudwy fydd yr ardal cyntaf y byddwn ni’n talu sylw . . .
Croeso i Ardudwy
Mae tref Harlech ei hun yn cael ei chydnabod fel un o 14 ardal gadwraeth Eryri, sy’n dyst i’r ymrwymiad i warchod amgylchedd adeiledig a phensaernïol yr ardal.
Archwilio Castell Harlech, a Chwedl Branwen Ferch Llŷr
Mae Castell Harlech, yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward, yn sefyll fel cofeb falch o allu canoloesol a dyfeisgarwch pensaernïol. Mae ei bylchfuriau yn cynnig golygfeydd godidog o’r môr, tra bod ei neuaddau’n adleisio’r chwedlau gynt, gan gynnwys ail gainc y Mabinogi, Branwen Ferch Llŷr. Mae’r chwedl epig hon o frad a chenfigen yn dechrau pan ddaw Matholwch, Brenin Iwerddon, i Harlech i briodi Branwen. Gallwch ddarllen mwy am Branwen Ferch Llŷr yma ar ein gwefan.
Ceir rhagor o wybodaeth am Gastell Harlech yma.
Capel Salem: Trysor o gelfyddyd Gymreig
Yng Nghapel Salem, sy’n swatio o fewn Cwm Nantcol, mae trysor o gelfyddyd Gymreig – y darlun “Salem” gan Sidney Curnow Vosper. Mae’r darn eiconig hwn yn cyfleu hanfod diwylliant Cymreig a harddwch difrifol defosiwn crefyddol.
Mae’r gwaith dyfrlliw yn dangos golygfa o wasanaeth eglwysig yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech. Mae Siân Owen, yn gwisgo dillad traddodiadol Cymreig, yn sefyll yn y canol yn dal llyfr emynau. Dros amser, daeth ‘Salem’ yn symbol o hunaniaeth Gymreig a thraddodiad anghydffurfiol. Roedd rhai pobl yn meddwl y gallent weld delwedd y diafol ym mhlygiadau siôl Siân Owen, gan ychwanegu dirgelwch y darlun. Prynodd yr Arglwydd Leverhulme, perchennog Sunlight Soap, y darlun gwreiddiol a chynigiodd gyfle i bobl gasglu tocynnau o’i ‘Sunlight Soap’ i gael print ohono. Mae’r darlun bellach wedi’i gadw yn Oriel Gelf Lady Lever ym Mhort Sunlight.
Gallwch ddarllen mwy am hanes y llun ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.
Dadorchuddio Rhyfeddodau Archeolegol
Mae gan y rhanbarth ryfeddodau archeolegol fel Bryn Cader Faner, a Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy.
Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy
Wedi’i lleoli ar lethr yn edrych dros Fae Ceredigion, mae Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy yn cynnwys pâr o feddrodau Neolithig, a adeiladwyd tua chwe mil o flynyddoedd yn ôl yn ystod dau gyfnod penodol. Roedd y cyfnod hwn yn nodi’r adeg pan oedd bobl yn ffermio’r tir a chadw da byw am y tro cyntaf. Er eu bod yn agored i’r elfennau, mae’r beddrodau mewn cyflwr eithriadol o dda, a’r meini capan yn dal i orffwys yn ddiogel ar eu meini unionsyth. Mae archeolegwyr yn credu bod y safle hwn yn gwasanaethu fel math o dŷ hynafol lle cedwid gweddillion yr ymadawedig gyda’i gilydd. Mae’n debygol ei fod yn lle ar gyfer defodau, fel offrymu anrhegion, bwyd, a diodydd i’r hynafiaid.
Am fwy o wybodaeth am y siambr, ewch draw i wefan Cadw.
Bryn Cader Faner
Mae Bryn Cader Faner yn safle claddu o’r Oes Efydd Gynnar, sy’n dyddio’n ôl tua phedair mil a hanner o flynyddoedd. Mae’r garnedd garreg hon, yn cynnwys siambr fechan o slabiau cerrig lle byddai corff neu amlosgiad wedi’i osod. Mae’r safle wedi ei leoli’n strategol i ymddangos fel silwét trawiadol ar y gorwel wrth fynd ato ar hyd hen drac. Er iddo gael ei ddifrodi gan helwyr trysor yn y 19eg ganrif a’r fyddin yn ystod ymarfer targed ym 1939, mae Bryn Cader Faner yn parhau i fod yn un o ryfeddodau’r Gymru gynhanesyddol.
Am fwy o wybodaeth am safleoedd archaeolegol, gan gynnwys y ddau yma, ewch draw i wefannau Coflein neu Archwilio.
Eglwys Sant Tanwg
Wedi’i lleoli yng nghanol y twyni tywod yn Llandanwg, mae gan eglwys hynafol Sant Tanwg hanes storïol yn dyddio’n ôl i’r 5ed ganrif, a briodolir i’w sylfaenydd, Sant Tanwg. Yn cael ei hystyried yn un o sefydliadau Cristnogol hynaf Prydain, saif eglwys Sant Tanwg yn wydn o fewn y tywod symudol, tua 20 metr o’r marc penllanw. Er gwaethaf cael ei chladdu’n aml gan dywod ymledol, mae waliau cerrig syml yr eglwys yn cynnig noddfa dawel, lle hyd yn oed ar y dyddiau tawelaf, mae sŵn pell y tonnau’n chwalu ar y lan yn treiddio i’r tu mewn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hanes yr eglwys ar wefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau a mewnwelediadau wrth i ni barhau â’n taith trwy Ardudwy. Gyda’n gilydd, gadewch inni ddarganfod y trysorau cudd a’r trysorau oesol sy’n aros yn rhannau deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.