Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Chwedl epig o frad a chenfigen

Mae Branwen ferch Llŷr yn un o brif gymeriadau’r ail chwedl ym Mhedair Cain y Mabinogi.

Mae’r chwedl epig hon o frad a chenfigen yn dechrau pan ddaw Matholwch, Brenin Iwerddon, i Harlech i briodi Branwen.

Anghydfod teuluol

Roedd Branwen yn chwaer i Bendigeidfran, cawr chwedlonol Cymreig a Brenin ar Ynys Prydain. Roedd hi hefyd yn hanner chwaer i Nissien, un o gymeriadau da’r chwedl, ac Efnisien, un o gymeriadau drwg y chwedl.

Pan glywodd Efnisien am briodas ei hanner chwaer, fe wylltiodd gan nad oedd Bendigeidfran wedi gofyn am ei ganiatâd cyn rhoi Branwen yn wraig i Fatholwch. Yn ei wylltineb, difethodd Efnisien y seremoni briodas gan anafu ceffylau Matholwch. Torrodd glustiau, gwefusau ac amrannau y ceffylau i ffwrdd.

Fel ymddiheuriad, rhoddodd Bendigeidfran geffyl iach am bob un a ddifethwyd i Matholwch yn ogystal â phlât aur a ffon oedd yr un mor drwchus a bys bach Bendigeidfran. Ond doedd hyn ddim yn ddigon i Matholwch a bu rhaid cynnig crochan hyd iddo, Y Pair Dadeni. Dyma grochan oedd yn dod â’r meirw yn ôl yn fyw.   

Branwen a’i drudwy

Peth amser yn ddiweddarach, wedi i Branwen ymgartrefu yn Iwerddon a geni mab o’r enw Gwern, cafodd ei chosbi oherwydd yr hyn a wnaeth Efnisien gynt. Cafodd ei di-raddio i statws morwyn a chafodd fonclust dyddiol gan y cigydd. Fel morwyn, y gegin oedd cartref Branwen, ond roedd ganddi un ffrind yno, sef drudwy fach. Un diwrnod, dywedodd Branwen wrth y drudwy am ei hanobaith ac ei anfon i Gymru i ddweud wrth Bendigeidfran.

Ymdaith Bendigeidfran

Pan glywodd Bendigeidfran am sefyllfa ei chwaer, gyrrodd fyddin o Gymru i Iwerddon ar unwaith. Gan fod Bendigeidfran yn gawr, gallai gerdded drwy’r môr gyda chychod ei fyddin yn hwylio wrth ei ysgwydd. Roedd milwyr Iwerddon yn gegrwth wrth weld yr olygfa, roeddynt yn meddwl bod mynydd a choed yn dod amdanynt.

I geisio atal Bendigeidfran a’i fyddin, difethodd milwyr Iwerddon bont bwysig oedd yn croesi afon. Ond doedd gweithrediad o’r fath yn ddim rwystr i Bendigeidfran. Gorweddodd y cawr ar draws yr afon gan ddweud ‘A fo pen bydd pont. Mi a fyddaf pont’, a gadael i’w filwyr gerdded drosto i groesi’r afon. Mae’r dyfyniad yma’n ddihareb adnabyddus hyd heddiw.   

Cynllun Matholwch

Buan iawn y sylweddolodd Matholwch y byddai’n rhaid gwneud yn iawn am gosbi Branwen a chytunodd i wneud Gwern yn Frenin Iwerddon.

Ond fel bob chwedl dda, roedd cynllun ar waith gan y Gwyddelod. Fel rhan o ildiaid Matholwch, fe gytunodd adeiladu tŷ i Bendigeidfran. Roedd angen tŷ anferth i gartrefu’r cawr ac adeiladwyd tŷ â chan piler. Wrth i’r tŷ gael ei adeiladu, cuddiodd Matholwch filwr ym mhob un o bileri’r tŷ mewn ymgais i ddal Bendigeidfran.

Yn ddigon lwcus i Bendigeidfran, darganfyddodd Efnisien gynllwyn y Gwyddelod a’u lladd.

Ond dyn digon anghynnes oedd Efnisien. Roedd yn parhau i fod yn anhapus â’r drefniant ac yn eiddigeddus o statws rhai aelodau o’i deulu.

Diweddglo trychinebus

Un noson, yn ei wylltineb, taflodd Gwern i’r tân gan cychwyn brwydr ffyrnig rhwng y ddau fyddin.

Defnyddiodd y Gwyddelod Y Pair Dadeni i atgyfodi eu milwyr nes i Efnisien ddringo mewn i’r pair a’i dorri’n bedwar. Torrodd ei galon ar yr un pryd.

Dim ond Branwen a saith o farchogion Bendigeidfran oroesodd a bu iddynt ddychwelyd yn ôl i Gymru. Claddwyd pen Bendigeidfran yn Llundain.

Bu Branwen farw o dor-calon o’r hyn ddigwyddodd. Anaml iawn ceir ddiweddglo hapus yn chwedlau’r Mabinogi.