Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Mae tirwedd ddirgel Eryri wedi tanio dychymyg ein cyndeidiau ac wedi bod yn grud i straeon ar hyd yr oesoedd

Mae ‘na gewri, tylwyth teg a chreaduriaid o bob lliw a llun wedi gwau eu hunain drwy’r pridd ers pan fu bodau dynol yn byw yma.

Anodd ydi canfod mynydd, afon neu lyn yn Eryri sydd heb ryw stori fytholegol neu chwedloniaeth yn perthyn iddynt.

Ar lafar byddai’r straeon yma yn cael eu hadrodd, a dros ganrifoedd maen nhw wedi esblygu. Mae chwedloniaeth a llên gwerin ar draws Prydain gyda llawer ohonynt yn rhannu’r un math o ddelweddau a strwythur.

Gwers yw chwedloniaeth mai ceidwaid y tirwedd ydym ni.

A view of Snowdon's summit
Yr Wyddfa—gwyddfa Rhita
Mae’n debyg y daw enw’r Wyddfa o’r gair ‘gwyddfa’ sy’n air arall am ‘fedd’ neu ‘claddfa’. Yn ôl y sôn, copa’r Wyddfa yw’r man lle claddwyd y brenin canoloesol Cymreig, Rhita Gawr, ar ôl brwydr ffyrnig gyda’r Brenin Arthur.
Y Mabinogi
Mae’r gampwaith canoloesol, Y Mabinogi, yn un o’r enghreifftiau cynharaf o ryddiaith yn y Deyrnas Unedig. Mae rhai o straeon fwyaf adnabyddus Y Mabinogi wedi eu selio o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol gan gynnwys ‘Branwen, ferch Llŷr’ a ‘Math, fab Mathonwy’.
Mytholeg a Llên Gwerin Eryri
Gwylliaid Cochion Mawddwy

Criw o ladron pen ffordd oedd yn codi ofn ar drigolion Dinas Mawddwy yn ystod yr 16eg ganrif.

Gwylliaid Cochion Mawddwy

Branwen ferch Llŷr

Stori am frâd a chenfigen sy’n cynnwys rhai o olygfeydd mwyaf eiconig llên gwerin Cymru.

Branwen ferch Llŷr

Blodeuwedd

Yn un o gymeriadau diffiniol Y Mabinogi, roedd Blodeuwedd yn fenyw chwedlonol wedi ei gwneud o flodau.

Blodeuwedd

Idris Gawr

Mae un o gewri enwocaf Eryri yn rhoi ei enw i un o gopaon mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol, Cader Idris.

Idris Gawr

Seithenyn

Hanes dinas chwedlonol Cantre’r Gwaelod a’i boddwyd oherwydd meddwdod Seithenyn.

Seithenyn

Gelert

Mae stori Gelert yn un o chwedlau enwocaf Eryri ac yn ysbrydoliaeth y tu ôl i un o bentrefi mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol, Beddgelert.

Gelert

Ceridwen

Mae gan y chwedl hon, sydd wedi ei lleoli yn ardal y Bala, y cyfan – gwrachod, cewri, hud a thrawsnewidiadau chwedlonol.

Ceridwen