Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Un o gymeriadau fwyaf eiconig Y Mabinogi

Cymeriad o straeon Y Mabinogi yw Blodeuwedd. Mae’r Mabinogi yn gasgliad o straeon chwedlonol Cymreig sydd wedi ei rannu’n bedwar rhan neu ‘gainc’.

Mae stori Blodeuwedd i’w glywed ym mhedwaredd cainc Y Mabinogi sef ‘Math fab Mathonwy’.

Dynes wedi ei chreu o flodau

Ar ddiwedd y bedwaredd cainc mae merch o’r enw Arianrhod yn gosod tynged ar eu mhab, Lleu Llaw Gyffes. Roedd y dynged yn golygu na chaiff Lleu fyth briodi merch dynol.

Ond roedd gan Lleu ewythr o’r enw Gwydion, dewin chwedlonol o’r Mabinogi. O glywed tynged Lleu, fe greodd Gwydion ferch o flodau iddo ac fe’i galwyd yn Blodeuwedd.

Fe’i chrewyd o flodau’r dderwen, y banadl a’r erwain.

Priododd Blodeuwedd a Lleu ond cyn pen dim, roedd trwbwl ar y gorwel. Roedd Blodeuwedd wedi disgyn mewn cariad â Gronw Pebr, rhyfelwr a heliwr o Benllyn.

Cynllun Blodeuwedd a Gronw

Mewn cyfyng-gyngor â’u sefyllfa, penderfynodd Blodeuwedd a Gronw gynllwynio i ladd Lleu fel y cant fyw a’i gilydd yn hapus. Ond doedd lladd Lleu ddim yn dasg hawdd.

Dim ond mewn amgylchiadau penodol fyddai modd lladd Lleu. Roedd gofyn i un o’i draed sefyll ar gafn a’r llall ar fwch gafr. Unwaith y byddai ei draed ar y rhain, byddai’n rhaid ei drywannu gan waywffon—ond nid unrhyw waywffon cyffredin. Byddai’n rhaid ei drywannu â gwaywffon oedd wedi ei greu dros gyfnod o flwyddyn yn ystod amser yr Offeren.

Gyda’r fath ofynion o’u blaenau, roedd cynllun Blodeuwedd a Gronw bron yn anobeithiol—nes i Blodeuwedd gael syniad.

Gofynodd i Lleu ddangos iddi’r union ffordd yr oedd rhaid iddo sefyll er mwyn cael ei ladd. Ni fyddai Lleu yn amau dim o gynllun Blodeuwedd—wedi’r cyfan, roedd Blodeuwedd ac yntau’n briod ac mewn cariad a’i gilydd.

Wrth iddo gamu i sefyll ar gafn a gosod ei droed arall ar fwch gafr, ymddangosodd Gronw a’i drywannu yn y fan a’r lle.

Yn sydyn, trawsnewidiodd Lleu i mewn i Eryr ac hedfan i ffwrdd i’r gwyll.

Dial Lleu a Gwydion

Bu Blodeuwedd a Gronw’n byw yn ddedwydd am gyfnod ar ôl cael gwared â Lleu. Ond cyn hir a hwyr, daeth dial ar y cwpwl cynllwyngar. Dychwelodd Lleu a’i gyfaill dewinol, Gwydion, a lladd Gronw Pebr.

Trowyd Blodeuwedd yn dylluan a thrwy hynny ni châi fyth eto dangos ei hwyneb yng ngolau dydd.