Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Un o hanesion diffiniol Eryri

Ci chwedlonol yw Gelert sydd yn gysylltiedig â phentref Beddgelert yn nghanol y Parc Cenedlaethol. Dyma un o hanesion diffiniol Eryri.

Hanes Gelert

Roedd Gelert yn gi i Llywelyn Fawr, un o dywysogion enwocaf Cymru. Yn ôl y chwedl, aeth Llywelyn allan un diwrnod i hela gan adael ei fab yn cysgu’n dawel mewn crud—wedi’r cyfan, roedd Gelert ei gi am fod yno i warchod ei fab rhag unrhyw beryglon.

Tra’r oedd Llywelyn allan, sleifiodd blaidd at grud y baban. Llamodd Gelert tuag at y blaidd i warchod mab y tywysog. Roedd ymladd ffyrnig rhwng Gelert a’r blaidd. Syrthiodd crud y baban wrth i gyrff y ddau anifail fowndio o un pen o’r stafell i’r llall.

Er gwaetha’r frwydr ffyrnig, bu i Gelert lwyddo i ladd y blaidd.

Ymhen hwyr neu hwyrach, dychwelodd Llywelyn yn ôl a dychryn o weld y llanast o’i flaen. Gwelodd Gelert â gwaed drosto a’i faban wedi disgyn o’i grud yn y pellter.

Heb unrhyw oedi, fe dynnodd Llywelyn ei gleddyf a lladd Gelert yn y fan a’r lle.

Wrth godi o gorff marw ei gi, clywodd sŵn crio yn dod o gyfeiriad y crud. Rhuthrodd draw a gweld ei faban yn fyw ac iach ac wrth ei ochr, y blaidd.

Torrodd Llywelyn ei galon wrth iddo sylweddoli ar yr hyn yr oedd wedi ei wneud.