Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Cronfa Cymunedau Eryri yn ail- lansio heddiw. Cronfa er budd y gymuned o fewn ac o amgylch y Parc drwy roi cefnogaeth i gynnal a gwella ansawdd bywyd preswylwyr a chreu cymunedau cydnerth.

Mae’r gronfa yn derbyn ceisiadau ar nifer o themâu gan gynnwys seilwaith gwyrdd, gwell mynediad at hamdden ar gyfer iechyd a lles, cynhyrchu ynni, datgarboneiddio, gwelliannau amgylcheddol lleol megis rheoli sbwriel a gwastraff, datblygiad cymunedol a’r iaith Gymraeg.

 

Dywedodd Gwenno Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Parc Cenedlaethol:

“Rydym yn gyffrous o gyhoeddi ail-lansiad Cronfa Cymunedau Eryri, cynllun pwysig sydd yn ymroddedig i gefnogi cymunedau o fewn ac o amgylch y Parc. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau llewyrchus a chryfach er mwyn dyfodol cynaliadwy i Eryri”.

 

Mae’r Awdurdod yn cydnabod mai’r cymunedau lleol sydd â’r arbenigedd i ddeall eu hanghenion eu hunain a datblygu prosiectau fydd yn gweithio iddyn nhw. Bydd prosiectau’r gronfa felly yn cael eu harwain gan y cymunedau gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod a bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan y panel os byddant yn cydymffurfio â’r themâu.

Mae’r prosiectau llwyddiannus yn y rownd flaenorol wedi cynnwys paneli solar mewn hwb cymunedol, gwella mynediad i bobl â thrafferthion symudedd a gwaith dehongli newydd i wella cysylltedd pobl gyda hanes a thirwedd Eryri.

Bydd grantiau cyfalaf rhwng £5,000 ac £20,000 yn cael eu cyflwyno i brosiectau fydd yn cyrraedd y meini prawf ac yn cael eu cymeradwyo gan y panel. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i gefnogi datblygiadau cynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol ac yn hyderus bydd y gronfa gymunedol yn adnodd gwerthfawr i’n cymunedau lleol.

Diwedd.

Nodyn i Olygyddion

  1. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru
  2. Am fwy o wybodaeth am y gronfa cysylltwch â Gwenno Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar 01766 772257 neu cronfacymunedaueryri@eryri.llyw.cymru