Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n paratoi at gynnal COPA1 ar y 24ain o Fedi, y Gynhadledd Amgylcheddol Ieuenctid gyntaf ar Yr Wyddfa. Bydd y digwyddiad yma yn garreg filltir bwysig fel rhan o brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig ac yn anelu at fynd i’r afael a’r broblem llygredd plastigion untro trwy ddatblygu syniadau arloesol y genhedlaeth nesaf.

Mae COPA1 yn nodi cam hanesyddol wrth i’r gynhadledd ieuenctid gyntaf gael ei chynnal mewn lleoliadau ar Yr Wyddfa, wrth i arloeswyr ifanc ddod ynghyd ag arbenigwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r mynydd. O dros 200 o geisiadau, mae 15 grŵp wedi cyrraedd y rownd derfynol ac wedi cael eu dewis i fynychu’r gynhadledd er mwyn cyflwyno eu ‘Syniadau Mawr’. Bydd y buddugwyr yn derbyn grant datblygu o £1,500 wedi ei ariannu’n garedig gan y Loteri Genedlaethol.

Bydd panel o arbenigwyr adnabyddus yn beirniadu gan gynnwys yr AS lleol Liz Saville Roberts, yr awdur a chantores Casi Wyn a Chyfarwyddwr M-Sparc Pryderi ap Rhisiart yn mentora’r disgyblion i ddatblygu a gwireddu eu syniadau.

 

Dywedodd Alec Young, Swyddog Prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig:

“Mae COPA1 yn ffordd gynaliadwy o gynnal cynhadledd, trwy bwysleisio ar y meddylfryd o ail-lenwi, ail-ddefnyddio ac ailgylchu, yn ogystal â blaenoriaethu cynnyrch cynaliadwy a di-blastig gydol y diwrnod. Yn ychwanegol i hyn bydd y rhai fydd yn mynychu’r gynhadledd yn hyrwyddo a gwneud defnydd o wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, ffordd amgylcheddol i ymwelwyr deithio yn yr ardal.”

 

Yn y dyddiau’n arwain at COPA1, mae’r Awdurdod yn ymuno gyda Chyngor Mynydda Prydain (BMC), Trash Free Trails, Plantlife a Chymdeithas Eryri mewn ymdrech unigryw i waredu gwerth degawdau o sbwriel o Glogwyn y Garnedd er mwyn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.

Ar Fedi 21ain bydd tîm profiadol o ddringwyr yn disgyn ar wyneb Yr Wyddfa gyda’r ecolegydd trwyddedig Robbie Blackhall-Miles VPLS i amddiffyn planhigion Arctig-Alpaidd megis y Dorfaen Fwsoglyd, sydd bellach yn tyfu yng nghanol y sbwriel. Bydd y sbwriel yn cael eu harolygu a’u dadansoddi’r diwrnod canlynol gan dîm o wirfoddolwyr traws-gymunedol er mwyn atal mwy o feicroplastigion lygru’r amgylchedd lleol.

Yn dilyn gwaith glanhau ar Yr Wyddfa bydd COPA1 yn manylu ar ddatblygu strategaethau i fynd i’r afael a’r argyfwng plastigion untro trwy bwysleisio ar dri maes; arloesedd, datblygu polisi ac ymgysylltu creadigol cyhoeddus. Y nod yw gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i leihau sbwriel yn yr ardal ac ysbrydoli cenhedlaethau’r dyfodol i warchod ein hamgylchedd.

Trwy gynnig rôl arwyddocaol i brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig i bobl ifanc, mae COPA1 yn anelu i rymuso llysgenhadon hinsawdd y dyfodol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cadw Cymru’n Daclus wedi ymrwymo i ddarparu cyfle unigryw i wneud gwir wahaniaeth yn Eryri.

 

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.

Am ymholiadau’r wasg cysylltwch ag Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru

Hoffai Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddiolch i Brifysgol Bangor, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cadw Cymru’n Daclus a Stad Baron Hill am eu cydweithrediad ar y prosiect yma.