Mae enwau lleoedd hanesyddol Cymru yn cipio ysbryd lleoedd, yn tanio’r dychymg ac weithiau’n ail greu’r bywyd beunyddiol, y trafferthion, y brwydrau a gogoniant yr oes a fu. Maent yn rhan annatod o fywiogrwydd yr iaith Gymraeg, sydd wedi ei adnabod fel un o Rinweddau Arbennig Eryri.
Mae gan Awdurdod y Parc ddau brosiect hirdymor sy’n gofalu am enwau lleoedd o fewn y Parc Cenedlaethol. Yn goruchwylio’r gwaith hwn mae gan yr Awdurdod grŵp craffu enwau lleoedd, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion ac yna’n adrodd yn ôl i’r Awdurdod llawn.
Mae modd i unrhyw un gyfrannu enwau at y prosiectau uchod, neu yn uniongyrchol i’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (manylion ar waelod y dudalen hon).
Pam bod enwau tirweddol yn bwysig?
Lle bynnag yr awn ni yn y byd, mae enwau lleoedd yn portreadu cymeriad cymunedau ac yn rhoi ystyr i’r tir a’i nodweddion. Maen nhw hefyd yn offerynau ymarferol iawn, sy’n ein galluogi i ganfod ein ffordd o un lle i’r llall. Maent yn ein hatgoffa o’n lle yn y byd, yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol ac yn Eryri, mae enwau lleoedd yn un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol ei hun.
Weithiau, byddwn yn ansicr am ynganiad enw dieithr ond dro arall, daw enwau lleoedd â ni’n nes at ein gilydd drwy darddiadau cyffredin ar enwau tebyg. Drwy adnabod a deall ystyr enwau lleoedd, gallwn ddeall y dirwedd a thrwy hynny, deall hanes tir, iaith, cymuned a’u cysylltiad gyda phlanhigion, anifeiliaid a stori’r bobl. Mae hyn oll yn rhoi balchder i ni ac yn ein cymell i gymryd o ddifrif ein dyletswydd i warchod ein treftadaeth a’i throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Dathlu Enwau Eryri
Fel rhan o gynllun Llysgennad Eryri, ysgrifennodd y prifardd Myrddin ap Dafydd gerdd gan ddefnyddio enwau cymoedd yn Eryri yn unig. Mae’r gerdd yn adlewyrchu’r cyfoeth o enwau unigryw sydd i’w gael yn ardal y Parc Cenedlaethol.
Cymoedd yn Eryri
Cwm Bleiddiaid, Cwm Brwynog, Cwm Bowydd,
Cwm Croesor, Cwm Ciprwth, Cwm Coch,
Cwm Cywarch, Cwm Clogwyn, Cwm Cynfal,
Cwm Cneifion, Cwm Cowlyd, Cwm Cloch.
Cwm Dulyn, Cwm Dyli, Cwm Dylluan,
Cwm Dreiniog, Cwm Deiliog, Cwm Du,
Cwm Eigiau, Cwm Esgyll, Cwm yr Eglwys,
Cwm Ffernol, Cwm Dôl a Chwm Dŵr.
Cwm Gerwyn, Cwm Garmon, Cwm y Gylchedd,
Cwm Gwyn, Cwm y Gaer, Cwm-y-glo,
Cwm Hetiau, Cwm yr Hafod, Cwm Hesgen,
Cwm Hirnant, Cwmfynhadlog, Cwm y Go’.
Cwm Llechen, Cwm Llusog, Cwm Llefrith,
Cwm Llugwy, Cwm Llwy a Chwm Lloer,
Cwm Maesgwm, Cwm Mynach, Cwm Marchlyn,
Cwm Penamnen, Cwm Meillionen, Cwm Merch.
Cwm Nantcol, Cwmorthin, Cwm Oerddwr,
Cwm Ochain, Cwm Caeth, Cwm Blaen y Glyn,
Cwm Prysor, Cwm Penmachno, Cwm Pandy,
Cwm Tylo, Cwm Tryweryn, Cwm Gwyn.
Cwm Ffynnon, Cwm Idwal, Cwm y Lloiau,
Cwm Onnen, Cwm yr Haf, Cwm Afon Goch,
Cwm yr Ychain, Cwm yr Hyrddod, Cwm Marchnad,
Cwm Beudy Mawr, Cwm Tal-y-braich a Chwm Moch.
—Myrddin ap Dafydd
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y ddogfennaeth atodedig neu’r gwefannau isod:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Hafan – Enwau Lleoedd Hanesyddol (cbhc.gov.uk)
Comisiynydd y Gymraeg: Enwau Lleoedd (comisiynyddygymraeg.cymru)
Llywodraeth Cymru: Adnoddau eraill: Enwau lleoedd yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Gwefan Arolwg Ordnans: The Welsh origins of place names in Britain | OS GetOutside (ordnancesurvey.co.uk)
Gallwch hefyd gyfeirio unrhyw ymholiadau yn uniongyrchol at Awdurdod y Parc Cenedlaethol drwy ebostio: parc@eryri.llyw.cymru, gan gyfeirio’ch ebost at y Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol.