Anturwraig a Nyrs

Ganed a magwyd Betsi ger Y Bala a phan yn chwe mlwydd oed, bu farw ei mam. Magwyd Betsi wedi hynny gan Gwenllïan, ei chwaer orthrymus, a phan yn naw mlwydd oed, penderfynodd ddianc, a mynd i weithio i deulu Simon Lloyd, Plas yn Dre, Y Bala, gan ffoi o’r fan honno yn bedair ar ddeg mlwydd oed, i fynd i weithio i ddinas Lerpwl. Wrth weithio i deulu Pendefig yn Lerpwl, cafodd gyfle i deithio i gyfandir Ewrop gyda nhw, er i’w thad wrthod ei chaniatáu i deithio i’r India.

Gadawodd Lerpwl am Lundain, lle bu’n gweithio i deulu oedd gan diroedd yn y Caribî. Cafodd ymweld â’r ynysoedd er mwyn gofalu am fab ei meistr. Yna, bu’n gweithio ar fwrdd llong Denmark Hill, sef llong fasnach, a bu’n teithio i bedwar ban byd arno—y Dwyrain Pell, Seland Newydd, Awstralia, India, De America, Mauritius a De Affrica. Llwyddodd Betsi i gasglu cryn dipyn o arian ar ei theithiau, ond collodd y cyfan trwy dwyll yn Llundain ac felly penderfynodd ddilyn gyrfa nyrsio yn Ysbyty Guy’s yn Llundain.

Yn 1854, wedi iddi ddarllen hanes brwydr Alma yn Rhyfel y Crimea, penderfynodd mai nyrsio yn y Crimea oedd ei galwad. Wedi cyrraedd y Crimea, teimlai Betsi yn rhwystredig nad oedd hi’n cael mynd i’r ysbyty ar faes y gad. Gan anwybyddu awdurdod Florence Nightingale ei hun, aeth Betsi yn nyrs i’r ysbyty yn Balaclafa, lle gwelodd effeithiau peidio rhoi sylw digonol i anafiadau, yn ogystal ag erchyllterau’r rhyfel ei hun. Yn fuan iawn, sicrhaodd Betsi fod trefn wedi’i adennill yn y Crimea. Bu hi farw yn Llundain yn 1860, yn dlotyn.

Mae ei henw bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bwrdd iechyd gogledd Cymru.